Wedi’i guradu gan Y Parchedig Owen James, Caplan Canolfan Mileniwm Cymru, a Keith Murrell, Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown.
Hoffem eich croesawu i’r Glanfa ar gyfer dathliad o’r Nadolig ddydd Sul 15 Rhagfyr. Bydd y parêd yn dechrau am 5pm wedi’i ddilyn gan garolau, perfformiadau, bywyd a hwyl yr ŵyl.
Caiff y parêd ei arwain gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown a fydd yn creu perfformiad newydd arbennig ar gyfer y digwyddiad.
“Bydd y parêd wedi’i ysbrydoli gan bantomeim mygydau Junkanoo Jamaicaidd sydd, yn ei dro, wedi cael ei ddylanwadu gan draddodiadau Gorllewin Affricanaidd ac Ewropeaidd. Er enghraifft, mae Junkanoo yn ymgorffori cymeriadau archdeip fel ‘Pen Ceffyl’, sy’n debyg i draddodiad y Mari Lwyd yng Nghymru. Bydd yr ensemble yn cynnwys tua 12 o ddawnswyr, drymwyr a cherddorion eraill, a fydd i gyd mewn gwisgoedd newydd a gomisiynwyd ar gyfer y perfformiad.”
Dewch â llusern i ymuno â ni ar daith brydferth drwy’r Basn Hirgrwn i’r Eglwys Norwyaidd ac yn ôl cyn mwynhau lluniaeth a pherfformiadau cerddorol gan Oasis One World Choir, Pantasia a Quaynotes Cardiff i ddathlu’r Nadolig.
Os na allwch chi greu llusern, byddwn ni’n cynnal gweithdai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 4pm ar y diwrnod.
Amser dechrau: 5pm
Gweithdai llusern o 4pm
Mae'r digwyddiad yma am ddim ond mae angen tocyn.