Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hijinx Odyssey

Pirates of the Odyssey Inn

Stiwdio Weston

21 – 23 Tachwedd 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Pirates of the Odyssey Inn {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-2378

Hijinx Odyssey

Pirates of the Odyssey Inn

21 – 23 Tachwedd 2024

Stiwdio Weston

Ahoi gyfeillion! Gwrandwch ar chwedl yr Odyssey Inn...

Pan ddangosa Billy hen fap trysor i Jemima, mae antur yn eu haros. Yn fuan mae ein harwyr yn hwylio’r moroedd mawr ar daith fydd yn eu clymu am byth.

Stormydd. Gwylanod. Brwydrau â chleddyf. Allan nhw ymdopi â’r daith fentrus yma a dod o hyd i’r trysor cudd...?

Ymunwch â grŵp theatr cymunedol Hijinx, Odyssey, ar antur fyrlymus wedi ei hysbrydoli gan ‘Ynys y Trysor’ Robert Louis Stevenson. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb fod yn anabl, mae’r sioe deuluol hon yn llawn o gomedi, cyffro a cherddoriaeth wreiddiol.

Ond cofiwch... gwyliwch y cracen!

Amser dechrau:
Iau – Sad 7pm
Sad 3pm

Hyd y perfformiad: Tua 70 munud

Canllaw oed: 5+

Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad gan Alistair Sill ar gael ym mhob perfformiad.

Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk

Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.

BABANOD AR LINIAU

Rhad ac am ddim – archebwch le gan ddenfyddio'r opsiwn tocyn 'Safonol a babi'.  Ar gael i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod.

CYNNIG I BOBL O DAN 16, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £6

CYNNIG I GRWPIAU + YSGOLION

Gostyngiad o £6 i grwpiau 10+. Trefnu ymweliad grŵp.

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston