Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Radio Platfform: Podlediadau

Radio Platfform

19 Medi – 24 Hydref 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Radio Platfform: Podlediadau {{::on_sale_date.label}} Radio Platfform MM/DD/YYYY 15 event-2157

Platfform

Radio Platfform: Podlediadau

19 Medi – 24 Hydref 2024

Radio Platfform

Rhowch gynnig ar bodledu gyda Radio Platfform!

Yn galw ar aelodau Radio Platfform! Ydych chi’n ysu am archwilio’r byd podledu?

Dewch ar daith arbennig gyda’n cwrs podledu newydd sbon, wedi’i deilwra i chi! Ymgollwch eich hun ym myd dynamig podlediadau a datgelwch eu hud unigryw o gymharu â radio traddodiadol.

Cloddiwch i dechnegau ymchwil, perffeithiwch y grefft o sgriptio, datblygwch eich medrusrwydd cyfweld a datgelwch eich creadigrwydd drwy olygu arbenigol.

Erbyn diwedd y cwrs yma, byddwch chi’n fwy na gwrandäwr – byddwch chi’n bodlediwr proffesiynol! Paratowch i greu eich sain unigryw eich hun yn y cyfrwng yma sy’n esblygu’n gyflym.

PRYD MAE’R CWRS?

Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Iau rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 19 Medi i 24 Hydref.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Radio Platfform