Dyma dy gyfle i ymuno â Next Up Academy, cwmni perfformio arloesol sy’n cyfuno hip hop a theatr i uwchraddio lleisiau pobl ifanc, herio canfyddiadau a dod â materion cymdeithasol cyfredol i’r rheng flaen.
Eleni rydyn ni’n cynnal sesiwn castio agored i ddewis uchafswm o 15 o bobl ifanc a fydd yn ffurfio ein cwmni craidd ar gyfer 2024/25. Yn y sesiwn castio byddi di’n cael cyfle i weithio gyda hwyluswyr o’r radd flaenaf o’r byd hip hop a theatr.
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc 16–25 oed sydd:
- Â chefndir mewn ‘djing’ / graffiti / ‘mcing’ / brecddawnsio
- Â chefndir mewn cerddoriaeth / theatr/ dawns / gair llafar
- O gefndir Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol
- O unrhyw grŵp arall a ymyleiddiwyd
Os cei di dy ddewis i ymuno â Next Up Academy, bydd angen i ti ymrwymo i bob ymarfer a fydd yn cael ei gynnal ar nos Lun 6pm–8pm yn ogystal â phenwythnosau achlysurol cyn y perfformiad (ar 27 Ebrill 2025) felly dylet ti ond wneud cais os wyt ti ar gael.
Archebwch eich lle am ddim nawr trwy lenwi'r ffurflen hon. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â ti!
Amser dechrau: 6pm
Oed: 16 - 25 oed