Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

StoryFutures: Xperience

Talwch beth y galwch · Byd o brofiadau ymdrochol

Bocs

16 Tachwedd 2024 – 5 Ionawr 2025

Bocs

StoryFutures: Xperience

Talwch beth y galwch · Byd o brofiadau ymdrochol

16 Tachwedd 2024 – 5 Ionawr 2025

Bocs

Yn galw ar bawb sy’n hoff o straeon ymdrochol a realiti rhithwir.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â Storyfutures i ddod ag Xperience i Bocs – ein lleoliad pwrpasol ar gyfer ffurfiau newydd o adrodd straeon.

Mae Xperience yn cynnig sawl profiad realiti rhithwir diddorol, o ganlyniad i waith StoryFutures gydag ystod o bartneriaid anhygoel yn ail-ffurfio ac yn ail-ddychmygu.

Mae straeon Xperience gan StoryFutures yn trafod themâu amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a newid hinsawdd, ac maent yn amrywio o ffilmiau 360° animeiddiedig i brofiadau ymdrochol rhyngweithiol llawn.

Cefnogir StoryFutures Xperience gan y BFI, drwy gyllid gan y Loteri Genedlaethol. 

"It’s just brilliant to see these immersive opportunities being presented and made available for everyone."

YMWELYDD Â BOCS

Digwyddiadur

Dewiswch o unrhyw un o’r profiadau ymdrochol yma:

Goliath: Playing with Reality (Anagram)

When Something Happens (Boom Clap Play)

Mrs Sherlock Holmes (Dillmeadow Ltd)

Missing 10 Hours (Electric Skies)

UnEarthed (Factory 42)

Empire Soldiers: A Caribbean Story, and Empire Soldiers: A South Asian Story (MBD (METRO-BOULOT-DODO LIMITED))

(Hi)Story of a Painting: What’s the Point (MONKEYFRAME a Fat Red Bird Ltd)

Monoliths (Pilot Theatre)

Locker Room (Rematch STM Ltd)

Buried in the Rock (ScanLAB Projects)

The Longest Walk (ScanLAB Projects)

This is Your Country Too (Strictly Immersive)

Three Lights (Virtus Studios Ltd)

The Museum of Imagined Futures (Indigo Storm a Studio ANRK)

Life Cycles (Surround Vision)

Kindred (Electric Skies)

Promenade (Shroom Studio)

Off The Record (No Ghost)

Get Punked! (Visualise)

Dyddiadau agor: 
Ar agor bob penwythnos o ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, ac yna’n ddyddiol rhwng 21 Rhagfyr a 5 Ionawr. 
Ar gau 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Amseroedd agor: 
Llun – Sad 11am – 6pm 
Sul 11am – 4pm 

Hyd y profiad:Mae pob profiad yn para 10–20 munud. 

Talwch beth y galwch: £2, £5 neu £8. Does dim angen archebu. Dewch a thalwch beth y gallwch ar y diwrnod.  

Mae capasiti pob profiad yn gyfyngedig felly mae’n bosibl y bydd rhad aros pan fydd hi’n brysur. 

Canllaw oed: 10+ 
Ni argymhellir VR i blant o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Mae gan rai profiadau ganllawiau oed uwch. Bydd aelodau tîm Bocs yn rhoi gwybod i chi am hyn ac unrhyw rybuddion o ran cynnwys ar y diwrnod.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Na, gallwch chi droi fyny ar y diwrnod. Rydyn ni'n gofyn yn garedig i bobl 'Dalu Beth y Gallwch' gyda'r opsiynau £2, £5 neu £8. Pan fyddwch chi'n cyrraedd, ewch i Bocs ar ochr ogleddol ein hadeilad a bydd un o'r tîm yn eich croesawu chi, egluro pob un o'r profiadau a chymryd eich taliad, os gallwch chi.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs

Hwyl yr Ŵyl i Bawb

Gweld popeth
Hamilton title and star logo

Hamilton

A collage of drag queens and musicians from Vaguely Artistic and House of Deviant

Cabaret

The Vaguely Deviant Not Quite Christmas, Christmas Show

Text reads HUMBUG! over an illustrated image of a hand taking a sweet out of a jar

Hijinx Odyssey

Pirates of the Odyssey Inn

Text: All I Want For Christmas is Musicals

David Mahoney + Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

All I Want For Christmas is Musicals

David Mahoney + Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

All I Want For Christmas is Family Musicals!

Bocs

StoryFutures: Xperience

Talwch beth y galwch · Byd o brofiadau ymdrochol

Cabaret

Drag Queen Story Hour UK

gydag Aida H Dee

Gweithdy Crosio Addurn Nadolig

Text reads NUTCRACKER (the alternative cabaret) over an image of a drag king in classic black and white cabaret make-up, wearing a white ruffle and sticking their tongue through an open nutcrcracker.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon

NUTCRACKER (the alternative cabaret)

A stall displaying handmade ceramic plates, mugs, bowls and spoons in a range of colours and hand-etched patterns

Marchnad Nadolig

indie.collectives gan Annie & Lolo

Gweithdy Mynegiant Celf

Creu eich teilsen glai eich hun

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth

Bocs

StoryFutures: Xperience

Talwch beth y galwch · Byd o brofiadau ymdrochol