Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyngerdd Nadolig Tŷ Hafan

Neuadd Hoddinott Y BBC

1 Rhagfyr 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Cyngerdd Nadolig Tŷ Hafan {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2369

Cyngerdd Nadolig Tŷ Hafan

1 Rhagfyr 2024

Neuadd Hoddinott Y BBC

Bydd côr eiconig Côr Meibion Treorci yn dod â naws Nadoligaidd i Neuadd Hoddinott y BBC, er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Gyda chefnogaeth Ysgol Gyfun Treorci a Callum Scott Howells, bydd hon yn sicr yn noson i'w chofio.

Sefydlwyd Côr Meibion Treorci ym 1883 ac mae’r côr chwedlonol wedi cymryd rhan mewn sawl perfformiad brenhinol ac wedi cynnal dwsinau o deithiau cenedlaethol a rhyngwladol.

Am un noson yn unig, cewch fwynhau noson o ffefrynnau Cymreig a Nadoligaidd yn llawer agosach at adref gyda’r holl elw'n mynd tuag at hosbis plant Tŷ Hafan.

Mae eich cefnogaeth yn trawsnewid bywydau. Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 teulu yng Nghymru sydd angen ein cymorth ni sy'n cael y cymorth y mae ei angen arnynt drwy fywyd a marwolaeth eu plentyn a thu hwnt. Pan fyddwch chi'n codi arian ar gyfer Tŷ Hafan, rydych chi'n mynd â ni gam yn nes at gyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd angen ein cefnogaeth, fel na fydd yr un teulu yn wynebu marwolaeth annirnadwy plentyn ar eu pen eu hun.

Canllaw oed: 2+

Amser cychwyn: 2.30pm, 7.30pm

Amser rhedeg: Tua 2 awr ac 20 munud (gan gynnwys egwyl)

Neuadd Hoddinott Y BBC

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC