Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A black and white photo of an empty theatre auditorium

Teithiau Arswydus Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

28 Hydref – 4 Tachwedd 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Teithiau Arswydus Canolfan Mileniwm Cymru {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2383

Teithiau Arswydus Canolfan Mileniwm Cymru

28 Hydref – 4 Tachwedd 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Dewch am daith gefn llwyfan – gyda thamaid o arswyd – i gael cipolwg ecsgliwsif ar fyd y theatr tu ôl i'r llen, gyda straeon theatraidd iasol.

Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy'r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o'r wal arysgrif enwog. Ar hyd y daith bydd ein tywyswyr yn rhannu straeon iasol o theatrau o bob cwr o'r wlad.

Rydyn ni'n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Mae pris eich tocyn yn cynnwys siocled poeth pan fyddwch yn cyrraedd. Gofynnwn i chi gyrraedd Ffwrnais, ein caffi-bar ar y llawr gwaelod, o leiaf 30 munud cyn i'r daith gychwyn a dangos eich tocyn er mwyn hawlio eich diod am ddim.

Canllaw oed: 8+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Amser dechrau:
Dydd Llun 28 Hydref 8pm (yn Saesneg)
Dydd Gwener 1 Tachwedd 11am (yn Saesneg)
Dydd Llun 4 Tachwedd 8pm (yn Saesneg)
Dydd Llun 4 Tachwedd 8pm (yn Gymraeg)

Gofynnwn i chi gyrraedd o leiaf 30 munud cyn y daith er mwyn mwynhau eich siocled poeth am ddim o Ffwrnais. Siop, sydd wedi'i lleoli yng nghornel chwith bellaf llawr gwaelod ein hadeilad, yw'r man cyfarfod ar gyfer cychwyn y daith.

Hyd y daith: tua 1 awr

Nodwch gan fod Ganolfan Mileniwm Cymru yn theatr weithiol brysur, efallai y bydd rhaid i ni dynnu allan ambell ran o’r daith o bryd I'w gilydd er iechyd a diogelwch cwsmeriaid.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru