Ymunwch â rhai o actorion Pobol y Cwm, gan gynnwys Jonathon Nefydd (Colin), Sera Cracroft (Eileen) a Dyfan Rees (Iolo) ar gyfer taith y tu ôl i’r llen o Gwmderi yng nghanolfan BBC Studios Cymru, Porth Teigr. Bydd actorion gwahanol yn tywys y teithiau bob dydd.
Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hyna’r BBC. Mi gafodd hi ei darlledu gyntaf, 16 Hydref 1974.
Mae’r stiwdio fel arfer ar gau i’r cyhoedd, ac fel rhan o ddathliadau pen-blwydd mawr Pobol y Cwm yn 50, mae BBC Cymru yn agor y drysau am gyfnod byr.
Bydd cyfle arbennig i chi weld y setiau mewnol eiconig ac ymweld â’r stryd fawr adnabyddus, gan roi cipolwg ar y cynhyrchiad o du ôl y camera.
Mae’r teithiau dwyieithog yn gyfle i ddilyn ôl troed y cymeriadau a gweld yr union fannau lle mae’r caru a’r cecru, a’r chwerthin a’r dagrau yn digwydd.
Cynhelir teithiau gydag chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fore Sul, Hydref 13 am 9.45am a 11.45am.
PETHAU I’W COFIO CYN CYCHWYN
Darllenwch y wybodaeth bwysig isod, os gwelwch yn dda, cyn archebu eich tocyn(nau).
- Mae’r teithiau yn addas ar gyfer plant dros 7 oed. Bydd rhaid i oedolion ddangos cerdyn adnabod gyda llun cyn cael mynediad i’r stiwdio (naill ai pasbort, trwydded yrru neu gerdyn teithio).
- Fe ganiateir bagiau bach sy’n cynnwys bagiau llaw (o dan 40cm x 35cm x 19cm – tua maint A3). Ond ni fydd modd i chi ddod â bagiau cefn, na bagiau mawr sy’n cynnwys bagiau siopa. Noder os gwelwch yn dda, nad oes lle i gadw unrhyw fagiau yn yr adeilad.
- Bydd angen i chi gyrraedd 15 munud cyn y daith oherwydd mesurau diogelwch. Bydd gwesteion a’u bagiau yn cael eu harchwilio. Mae’r daith yn para dros awr, yn cynnwys tipyn o gerdded a sefyll ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
- Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ganslo teithiau am resymau gweithredol ac yn yr amgylchiadau yma ni allwn gynnig dyddiadau eraill.
- Rhaid i bob plentyn dan 16 oed gael tocyn a bod yng nghwmni oedolyn neu fel arall ni chaniateir mynediad iddynt.
Cynhelir y teithiau dwyieithog dydd Sadwrn Hydref 12, dydd Sul Hydref 13, Dydd Iau Hydref 17, Dydd Gwener Hydref 18 a dydd Sadwrn Hydref 19 am 9.45am, 10.15am, 11.45am, 12.15pm, 2.15pm, 2.45pm, 4.15pm a 4.45pm.
Cynhelir teithiau gydag chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fore Sul, Hydref 13 am 9.45am a 11.45am.
Gall hyd at 22 person ymuno ar bob taith.
Oedolion
£20
O Dan 16
£12
Hynt
Tocyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr deiliaid cardiau Hynt. Mwy o wybodaeth yma.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.