Mae'n fis Tachwedd, beth yw'r ots? Rydyn ni'n llawn cyffro ac mae'n ddigon agos at y Nadolig.
Fory bydd hi'n dechrau edrych fel y Nadolig felly dewch i mewn i'n tŷ a rhoi tinsel ar y goeden. Nid tawel nos fydd hi ‘leni. Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd a mwynhau Nadolig Vaguely Deviant!
Ymunwch â ni am bumed rhifyn strafagansa arddangos House of Deviant (Fflamingo CIC) a Vaguely Artistic (Hijinx), lle mae anhrefn a gliter yn teyrnasu! Gwisgwch eich dillad parti gorau a’ch ‘sgidiau dawnsio, achos, yn ôl pob sôn, mae gan ellyll Sion Corn wobrau i bawb sydd ar y rhestr ddymunol a drwg...
Gwyddom mai’r cyfan sydd ei angen arnoch y Nadolig yma yw tocyn i weld... The Vaguely Deviant Not Quite Christmas, Christmas Show!
VAGUELY ARTISTIC
Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!
HOUSE OF DEVIANT
House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.