Pam mae ymladd llwyfan yn cael ei ddefnyddio? Sut mae ei gadw’n ddiogel? Pa fath o gyfryngau sy’n ei ddefnyddio? Sut y gall fod yn sgil manteisiol ar gyfer gweithio yn y celfyddydau? Bydd y cwrs yma yn dweud wrthot ti!
Byddwn ni’n trafod sut i goreograffu a pherfformio ymladd llwyfan yn gywir ac yn ddiogel mewn arddull perfformiad theatr. Yna, mewn parau, byddwch chi’n cyfuno popeth rydyn ni wedi’i ddysgu i berfformio golygfa wedi’i sgriptio o ddrama, ffilm neu gyfres deledu rydych chi’n ei dewis, gan gyfuno gwaith cymeriad ac ymladd llwyfan rydych chi wedi’i goreograffu eich hunain. Y nod yw rhoi cyfle i chi roi popeth rydych chi wedi’i ddysgu (gyda phwyslais ar weithio fel tîm a diogelwch) ar waith a chefnogi eich gilydd drwy wylio eich perfformiadau.
Bydd y cwrs yma yn dy annog i gydweithredu a chyfathrebu dy syniadau, gan dy gefnogi i ddatblygu dy arddull creadigol dy hun. Yn ogystal â hyn, gobeithio byddi di’n ennyn diddordeb mewn sgil newydd ac yn hyderus yn dy alluoedd.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.
PRYD MAE’R CWRS?
Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Lun rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 2 Medi i 7 Hydref.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.