Noson o ddathlu oes aur adloniant HTV Cymru Wales a ITV Cymru Wales gyda dau o’u hwynebau mwyaf cyfarwydd; Arfon Haines Davies a Caryl Parry Jones.
Bydd gohebydd a chyflwynydd ITV Cymru Siôn Jenkins yn holi’r ddau, gyda pherfformiad arbennig yn cynnwys ambell glasur gan Eden.
Nodwch mai digwyddiad cyfrwng Cymraeg yw hwn.
Mae unrhyw elw o werthiant tocynnau yn cael ei ail-fuddsoddi i ariannu Archif Ddarlledu Cymru, ac nid er elw.



Archif Ddarlledu Cymru:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref Archif Ddarlledu Cymru ac arddangosfa Archif Ddarlledu Cymru.
Mae cynhyrchiad Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ac ITV Cymru Wales.
Partneriaid Archif Ddarlledu Cymru yw BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru Wales. Mae Archif Ddarlledu Cymru wedi’i ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â Llywodraeth Cymru.
Dilynwch Archif Ddarlledu Cymru ar:
- X: @NLWBroadcast
- Instagram: walesbroadcast_darlleducymru
- Facebook: walesbroadcastdarlleducymru
- YouTube: Archif Ddarlledu Cymru | Wales Broadcast Archive
Amser dechrau: 7.30pm, 6.30pm drysau
Iaith: Perfformir yn Gymraeg
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.