Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

A Night At The Musicals

Gyda Welsh of the West End a The Novello Orchestra

20 Gorffennaf 2025

Theatr Donald Gordon

Yn dilyn sioe a werthodd allan yn 2024, mae’r cyngerdd arbennig yma yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2025 gyda’i fersiwn cain a soffistigedig o rai o eiliadau mwyaf poblogaidd theatr gerdd.

O Wicked i Les Misérables, Chicago i Phantom of the Opera a mwy, mae A Night at the Musicals yn cynnwys The Novello Orchestra, un o gerddorfeydd sioe gorau’r byd, sy’n dychwelyd i’w cartref ysbrydol gyda’u brwdfrydedd a’u carisma nodedig.

Mewn noson yn llawn sêr a glamor digywilydd, yn ymuno â’r gerddorfa bydd y grŵp theatr gerdd a sêr Britain’s Got Talent Welsh of the West End, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u fideos o fersiynau anhygoel o glasuron theatr gerdd a pherfformiadau byw mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a The London Palladium.

Wedi’i arwain gan David Mahoney. Peidiwch â cholli’r cyngerdd mawreddog yma!

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)

Amser cychwyn: 7.30pm

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon