Paratowch ar gyfer antur anhygoel – abseiliwch i lawr wal llechi Canolfan Mileniwm Cymru wrth godi arian hanfodol i gefnogi ein helusen!
Teimlwch y cyffro o ddisgyn yng nghanol Bae Caerdydd a mwynhewch olygfeydd godidog wrth i chi wneud eich ffordd i lawr ein hadeilad eiconig.
Wyddoch chi ein bod ni’n elusen? Mae ein holl waith gyda’r gymuned, artistiaid Cymreig a phobl ifanc yn cael ei ariannu drwy roddion elusennol. Gyda’ch cefnogaeth hael drwy gofrestru ar gyfer abseil noddedig, gallwch chi ein helpu ni i drawsnewid bywydau a chreu atgofion bythgofiadwy i bawb.
- Gallai £50 gyfrannu at gost ein gweithdai ymgysylltu â’r gymuned, sy’n dod â phobl ynghyd i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol drwy greadigrwydd.
- Gallai £100 gefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau ac adrodd eu straeon fel rhan o Academi Next Up.
- Gallai £500 dalu am gludiant i alluogi grŵp i deithio i Gaerdydd i weld perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, profiad ysbrydoledig na fydden nhw’n gallu ei gael fel arall.
I ymgymryd â’r her, mae angen talu blaendal o £25 i gadw eich lle, a bydd angen gosod targed codi arian o £150 o leiaf, gyda phopeth yn mynd tuag at ein gwaith allgymorth effeithiol. Gallwch chi ein helpu ni i barhau â’n gwaith hanfodol yn y gymuned.
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru byddwn ni’n cysylltu â chi gyda gwybodaeth Bellach gan gynnwys sut i greu eich tudalen JustGiving.
Nodwch efallai y bydd y tywydd yn cyfyngu ar y digwyddiad yma. Bydd abseil i mewn i’r Theatr Donald Gordon eiconig yn cael ei gynnig wrth gefn.
Slotiau amser: Slotiau amser bob awr, 9am - 3pm
Cyfyngiad oed: 12+ (Nodwch fod rhaid i bobl o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn, gwarcheidwad neu weithiwr cymorth a chael cysyniad.)