Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Abseilio: Theatr Donald Gordon

Canolfan Mileniwm Cymru

26 Mai 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Abseilio: Theatr Donald Gordon {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2409

Abseilio: Theatr Donald Gordon

26 Mai 2025

Canolfan Mileniwm Cymru

Paratowch ar gyfer antur anhygoel – cyfle i weld Theatr Donald Gordon fel erioed o'r blaen drwy abseilio naw llawr i lawr ar y llwyfan wrth godi arian hanfodol i gefnogi ein helusen! 

Teimlwch y wefr o ddisgyn i lawr i’n llwyfan eiconig. 

Wyddoch chi ein bod ni’n elusen? Mae ein holl waith gyda’r gymuned, artistiaid Cymreig a phobl ifanc yn cael ei ariannu drwy roddion elusennol. Gyda’ch cefnogaeth hael drwy gofrestru ar gyfer abseil noddedig, gallwch chi ein helpu ni i drawsnewid bywydau a chreu atgofion bythgofiadwy i bawb. 

  • Gallai £50 gyfrannu at gost ein gweithdai ymgysylltu â’r gymuned, sy’n dod â phobl ynghyd i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol drwy greadigrwydd.  
  • Gallai £100 gefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau ac adrodd eu straeon fel rhan o Academi Next Up. 
  • Gallai £500 dalu am gludiant i alluogi grŵp i deithio i Gaerdydd i weld perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, profiad ysbrydoledig na fydden nhw’n gallu ei gael fel arall. 

Mae angen talu blaendal o £35 i gadw eich lle, a bydd angen gosod targed codi arian o £250 o leiaf, gyda phopeth yn mynd tuag at ein gwaith allgymorth effeithiol. Peidiwch â cholli allan ar y cyfle arbennig yma. 

Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru byddwn ni’n cysylltu â chi gyda gwybodaeth Bellach gan gynnwys sut i greu eich tudalen JustGiving. 

Dim awydd abseilio? Dim problem! Bydd digon o weithgareddau cyffrous ar y llawr, felly bydd rhywbeth i bawb. 

Ymunwch â ni ar gyfer Abseil Codi Arian Ein 20 Mlwyddiant, a gynhelir gan Dave Talbot Adventure Events, a chymerwch ran mewn her epig wrth wneud gwahaniaeth! 

Slotiau amser: Slotiau amser bob awr, 9am - 3pm 

Cyfyngiad oed:12+ (Nodwch fod rhaid i bobl o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn, gwarcheidwad neu weithiwr cymorth a chael cysyniad.) 

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Abseilio

Gweld popeth

Abseilio: Wal Llechi

Abseilio: Theatr Donald Gordon

Abseilio: Arysgrif