Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

LLAIS

Adwaith

Stiwdio Weston

11 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Adwaith {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-2653

LLAIS

Adwaith

11 Hydref 2025

Stiwdio Weston

Amseroedd dechrau:

6.30pm Cefnogaeth (i'w gadarnhau)

7.30pm Perfformiad 1: O Dan y Haenau

9.30pm Perfformiad 2: Solas

Nodwch fod angen tocynnau ar wahân ar gyfer y ddau berfformiad.

Eleni yn Llais dewch i wylio digwyddiad o bwys wrth i Adwaith, un o fandiau mwyaf hanfodol ac arloesol Cymru o'r degawd diwethaf, gamu ar y llwyfan ar gyfer dau berfformiad pwerus na ddylech eu colli. Wrth iddyn nhw ddathlu deg mlynedd gyda'i gilydd, mae'r setiau yma yn cynnig myfyrdod ar eu taith a cham dewr tuag at y dyfodol. 

Mae'r perfformiad cyntaf, O Dan y Haenau, yn gweld Adwaith yn pori drwy eu hen ganeuon gyda lens ffres – yn ailddehongli caneuon o Melyn, Bato Mato, Solas a senglau cynnar, gan gynnwys traciau o'u blynyddoedd cynnar sydd brin yn cael eu perfformio. Wedi'u hailddychmygu gyda'r egni crai ac uchelgais creadigol sydd wedi diffinio eu hesblygiad, mae'r sioe untro yma yn nodi arc llawn y band – o wreiddiau ôl-pync brys i arbrofi sonig sgrin lydan. Dyma'r cyfle olaf hefyd i glywed llawer o'r caneuon cynnar yma yn fyw. 

Mae'r ail set, Solas, yn berfformiad llawn o'u halbwm dwbl aruthrol â 23 o draciau – am y tro olaf. Dewch gydag Adwaith i'r Gorllewin Pell am un eiliad olaf – gofod lle mae breuddwydion plentyndod yn llunio'r syniad o gartref, ac mae sain yn dod yn atgof. Yn ymdrochol, yn gludol ac yn hynod bersonol, bydd y perfformiad yma yn ffarwel prin ac emosiynol i ddarn o waith diffiniol. Eiliad o gloi – a chyfle olaf i brofi Solas yn ei holl gwmpas a phrydferthwch.

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2)

Nodwch fod rhaid i bawb o dan 16 oed fod gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Archebwch docynnau ar gyfer ddwy sioe Adwaith i arbed £5.

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston

Llais

Gweld popeth

LLAIS

Ceci est mon coeur

Profiadau Ymdrochol · Talwch beth y gallwch

LLAIS

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

LLAIS

BBC Canwr Y Byd Caerdydd: Dathliad

LLAIS

Cate Le Bon

+ cefnogaeth

LLAIS

Beverly Glenn-Copeland a gwestai arbennig Elizabeth Copeland

LLAIS

Rufus Wainwright

LLAIS

Annie and the Caldwells

LLAIS

RÓIS

LLAIS

Mabe Fratti

LLAIS

Sesiwn Dydd Sadwrn: Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré, Trio Da Kali

LLAIS

Landless

LLAIS

Adwaith

LLAIS

Enji

LLAIS

Meredith Monk gyda Katie Geissinger ac Allison Sniffin

LLAIS

Mared a Ffrindiau

LLAIS

Poesis

LLAIS

Khamira