Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Noson Gyda The Fast Show

23 Tachwedd 2025

Theatr Donald Gordon

Ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen o 20 Tachwedd
Ar werth i’r cyhoedd o 21 Tachwedd

Mae edmygwyr The Fast Show yn cael eu sbwylio wrth i Simon Day, Charlie Higson, John Thomson, Paul Whitehouse, Mark Williams ac Arabella Weir ailuno i ddathlu 30 mlwyddiant y rhaglen deledu eiconig.

Mae aelodau gwreiddiol y cast yn camu ar y llwyfan i roi cipolwg unigryw i gynulleidfaoedd o gymeriadau poblogaidd gan gynnwys Suits You Sir, Ted a Ralph, Does My Bum Look Big In This, Competitive Dad a chymaint mwy. Dysgwch sut wnaethon nhw feddwl am y cymeriadau a’r ymadroddion a gwyliwch rai o’ch hoff eiliadau yn cael eu hailgreu – heb fod angen colur henoed!

Nid perfformiad yn unig yw’r daith; mae’n ddathliad o apêl barhaus The Fast Show a’r chwerthin mae wedi’i greu ym mywydau miliynau o bobl.

Paratowch i chwerthin, canu, hel atgofion a chreu rhai newydd.

Canllaw oed: 16+ (dim plant dan 2 oed)

Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: i'w gadarnhau: 2 awr 20 munud yn cynnwys un egwyl

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon