Wedi cael llond bol o ramant wael? Sweipiwch i’r dde ar rai o artistiaid bwrlesg mwyaf doniol, mwyaf fflyrtiog y DU.
Pa un ai a ydych yn ‘dod’ ar eich pen eich hun, neu gyda dêt, byddwch dros eich pen â’ch clustiau mewn cariad ag Eva Von Schippisch, y seren ffyrnig o ddoniol, sy’n cyflwyno tamaid o oes euraidd Hollywood, ac sydd yr un mor wirion ag ydi hi’n rhywiol.
Yn ymuno ag Eva ar y llwyfan bydd eich cariadon newydd, Enrico Touché, Elena Candela, FooFoo LaBelle, Kitty Katastrophy a’r trawiadol Cardiff Cabaret Club. Dewch i ddisgyn mewn cariad drosodd a throsodd ar ddydd San Ffolant a byddwch yn gorffen eich dêt yn teimlo’n hollol fodlon (am unwaith).
Wedi’i sylfaenu yn 2008 mae Cardiff Cabaret Club wedi bod yn dod a’i gyfuniad unigryw o fwrlesg tanbaid i ganolfannau’r brif ddinas am 16 mlynedd odidog.
Cyflwyno gan FooFoo LaBelle a Cardiff Cabaret Club.
"excellent... will leave you in stitches"
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref; noethni; goleuadau sy’n fflachio
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.