Barod i ddechrau dy daith mewn cynhyrchu cerddoriaeth? Ymuna â Platfform ar gyfer cwrs dwys pum diwrnod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – ac mae AM DDIM!
Archwilio Cynhyrchu Cerddoriaeth yw rhan gyntaf ELEV8, ein rhaglen datblygu cerddoriaeth. Bydd y cwrs pum diwrnod yma yn dy gyflwyno i hanfodion creu cerddoriaeth yn ddigidol. Dysga sut i ddefnyddio meddalwedd creu cerddoriaeth, gosod microffonau, recordio lleisiau, creu curiadau a chrefftio demos o ansawdd uchel. Byddi di’n gweithio yn unigol ac mewn timau cynhyrchu gan ddilyn brîff creadigol, a chael profiad ymarferol o recordio, cymysgu ac arddangos dy gerddoriaeth dy hun.
P’un a yw cynhyrchu cerddoriaeth yn newydd i ti neu rwyt ti eisoes yn arbrofi adref, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i sbarduno dy greadigrwydd, meithrin sgiliau hanfodol a rhoi hyder i ti barhau i ddatblygu dy sain o fewn ELEV8 a thu hwnt.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ymuno â chymuned ehangach ELEV8, gan gydweithio ar brosiectau a datblygu eu hartistiaeth ymhellach.
ARWEINYDD Y CWRS:
Dechreuodd cariad Alastair Reed at gerddoriaeth yn gynnar, wedi’i ysbrydoli gan y reggae, dub, hip hop, soul a rnb oedd yn cael ei chwarae adref. O arbrofi gydag allweddellau fel plentyn i ail-greu traciau Hip Hop, Jyngl a Drymiau a Bas fel arddegwr, datblygodd ei arddull cynhyrchu unigryw ei hun. Gyda BSc (Anrh) mewn Technoleg Sain a MSc mewn Uwch-Gynhyrchu Cerddoriaeth, mae Alastair wedi cyfuno arbenigedd technegol gyda brwdfrydedd dros addysgu. Drwy ei brosiect Reid’s Digital Music, mae wedi gweithio ledled De Cymru yn cyflwyno pobl ifanc i gynhyrchu cerddoriaeth, gan drefnu gweithdai gydag Addysg Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr cerddoriaeth.
Os yw'r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.