Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn dod ag amrywiaeth o gantorion o'r radd flaenaf i ŵyl Llais ar gyfer Cyngerdd Gala ysblennydd, sy'n dathlu'r gystadleuaeth fyd-enwog hon.
Bydd y noson fythgofiadwy hon yn cynnwys detholiad gwych o sêr Canwr y Byd Caerdydd sydd wedi perfformio yn nhai opera gorau'r byd, yn arddangos campweithiau operatig – y gerddoriaeth fwyaf prydferth a phoblogaidd a gyfansoddwyd erioed ar gyfer y llais.
O ddarn ysgafn Deuawd y Blodau gan Delibes, i Ride of the Valkyries taranllyd Wagner, a’r annwyl Gân i’r Lleuad gan Dvořák, mae hon yn argoeli i fod yn noson arbennig i unrhyw un sy'n frwd dros gerddoriaeth.
Perfformwyr
Natalya Romaniw soprano · Cystadleuydd yn Rownd Derfynol Gwobr y Gân 2009
Danielle de Niese soprano
Katarina Karnéus mezzo-soprano · Enillydd y Brif Wobr 1995
Catriona Morison mezzo-soprano · Cyd-enillydd y Brif Wobr a Gwobr y Gân yn 2017
Ilker Arcayürek tenor Cystadleuydd yn Rownd Derfynol Gwobr y Gân 2015
Ryan Vaughan Davies tenor · Enillydd Cystadleuaeth Cantorion Cymru 2024
Andrei Bondarenko bariton · Enillydd Gwobr y Gân 2011
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Xu Zhong Arweinydd
Hefyd, fydd y soprano ddisglair Danielle de Niese yn cyflwyno'r cyngerdd, ynghyd â’r côr-feistr enwog Gareth Malone.
Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i ddathlu cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd cyn iddi ddychwelyd yn 2027!
Bydd y cyngerdd yn cael ei recordio i'w ddarlledu’n ddiweddarach ar BBC Four a BBC Two Wales.
Bydd y rhaglen yn cynnwys:
Mozart Agorawd Priodas Figaro
Bizet Carmen: Cân y Toreador
Delibes Lakme: Deuawd y Blodau
Puccini Tosca: Vissi d’arte
Lehár Gwlad y gwenau: Dein ist mein ganzes herz
Saint-Saëns Samson et Dalila: Mon Coeur s’ouve ja ta voix
Cerddoriaeth Tsieinïaidd draddodiadol Blodyn Jasmin
Puccini Che gelida manina from La Boheme
Puccini O soave fanciulla from La Boheme
Strauss Ariadne: Sein wir wieder gut
Bizet Pecheur de perles: Au fond du temple saint
Egwyl
Wagner Ride of the Valkyries
Dvořák Rusalka: Cân i'r Lleuad
Cân werin Gymreig: Cymru Fach
Verdi Traviata: deuawd Libiamo
Mozart Hai gia vinta la causa
Verdi Don carlos: O don fatale
Mozart Cosi fan tutte: Soava si ail vento
Mascagni Cavalleria Rusticana: Intermezzo
Bizet Carmen: Habanera
Tchaikovsky Aria Lensy: Eugene Onegin
Tchaikovsky Turandot: Nessun dorma
Hen Wlad fy Nhadau
Amser dechrau: 7.30pm
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.