Rydyn ni'n Croesawi ti i ymuno â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Beth Sy'n Digwydd Nesaf?, cyfres o ddramâu byrion a ysgrifennwyd, a gyfarwyddwyd ac a berfformiwyd gan wneuthurwyr theatr ifanc.
Os ydych chi erioed wedi mynd i weld drama ac wedi meddwl y byddech chi wedi'i hysgrifennu'n wahanol, nawr yw eich cyfle i gymryd rhan. Mae Beth Sy'n Digwydd Nesaf yn brosiect sy'n dechrau gyda chwe awdur yn ysgrifennu pum munud cyntaf drama. Mae'r pum munud hyn yn cael eu bywiogi gan gyfarwyddwyr ac actorion ar gyfer cynulleidfa, sydd wedyn yn cael y cwestiwn, beth sy'n digwydd nesaf?
Dros gyfnod o 6 wythnos, gyda mewnbwn awduron, cyfarwyddwyr, actorion a chi, y gynulleidfa, bydd 6 darn theatr newydd sbon 30 munud o hyd yn cael eu datblygu:
- Wythnos 1: 23 Medi 18.00-20.00
- Wythnos 2: 30 Medi 18.00-20.00
- Wythnos 3: 7 Hydref 18.00-20.00
- Wythnos 4: 14 Hydref 18.00-20.00
- Wythnos 5: 21 Hydref 18.00-20.00
- Wythnos 6: 28 Hydref 18.00-20.00
Mae'r gynulleidfa'n hanfodol wrth lunio'r darnau sy'n cael eu perfformio, ac nid dyma brofiad nodweddiadol y gynulleidfa. Byddwn yn gofyn i chi fod yn rhan o'r broses drwy gydol y noson drwy roi adborth a hyd yn oed gymryd rhan mewn rhai gemau. Croeso i chi archebu a dod i gymaint o berfformiadau ag y gallwch.
Dyddiad: Dydd Mawrth o 23 Medi - 28 Hydref 2025
Amser dechrau: 6:00pm
Canllaw oed: 14+