Drysau'n agor: 7.30pm | Amser dechrau: 8pm (dim cefnogaeth)
Mae Beverly ac Elizabeth Glenn-Copeland yn artistiaid amlddisgyblaethol sydd wedi bod yn cydweithio ers iddynt gyfarfod fel ffrindiau ym 1992.
Fe briododd y cwpl yn 2009 ac yn fuan wedyn, fe symudodd y ddau i’r dwyrain i Arfordir Arcadian. Yno, fe agorwyd y cwpl ysgol theatr sydd wedi ymrwymo i adeiladu cymuned: gweledigaeth graidd i’r ddau.
Mae Glenn (fel y mae’n hoffi cael ei alw) yn ddyn traws hŷn du annwyl o Ganada, y bu ei waith am y rhan fwyaf o’i fywyd yn byw yn y cysgodion. Dim ond yn y degawd diwethaf mae ei waith wedi cael y sylw mae’n ei haeddu. Mae ei waith yn cynnwys yr albwm eiconig Keyboard Fantasies – a ysbrydolwyd gan berthynas ddofn â natur, obsesiwn gyda ffuglen wyddonol a rhai o’r peiriannau drwm a’r synthesisers cynharaf. Dim ond yn 2016, pan ddarganfuwyd Keyboard Fantasies gan berchennog siop recordiau Japaneaidd uchel ei barch y cafodd wir faint doniau cerddorol Glenn ei ‘ddarganfod’ go iawn. Rhoddwyd doethuriaeth er anrhydedd i Glenn gan Brifysgol Toronto nid yn unig am ei waddol cerddorol, ond am ei 'eiriolaeth benderfynol ar ran diwylliant du, brodorol a chwiar'. Mae ei ryddhad o 2023, The Ones Ahead yn uchafbwynt arall mewn gyrfa sydd wedi herio categoreiddio.
Mae Elizabeth yn artist theatr, awdur, cynhyrchydd ac addysgwr celfyddydol y mae ei gwaith dros y deugain mlynedd diwethaf wedi esblygu ar groesffordd celfyddydau ac actifiaeth. Yn ystod ei blynyddoedd cynnar bu'n teithio gyda'r Second City, adrodd straeon yn Arddangosfa Genedlaethol Canada a dawnsio a chanu fel y 'Wrach' yn Hansel a Gretl gyda Symffoni Honolulu, i enwi ond ychydig. Cyrhaeddodd ei llyfr, 'Jazz: Nature's Improvisation' restr fer Gwobr ReLit 2015, ac esblygodd ei llyfr o eco-farddoniaeth naratif, "Daring to Hope at the Cliff's Edge" allan o'i phreswyliad blwyddyn o hyd yn Sefydliad Ffosil Joggins: safle treftadaeth y byd UNESCO ar Bae Fundy. Cyd-gynhyrchodd a pherfformiodd Elizabeth ar daith ddiweddar Glenn.
Mae cariad Glenn ac Elizabeth at weithio gyda phlant a phobl ifanc wedi bod yn gyson trwy gydol eu bywydau. Fel artist-hwylusydd gyda Learning through the Arts, ArtsSmarts ac artsnb, mae Elizabeth wedi datblygu a hwyluso rhaglenni i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu, anableddau corfforol ac yn fwy diweddar y rheiny sy’n dioddef o or-bryder hinsawdd. Fe ymddangosodd Glenn fel y gwestai rheolaidd ‘Beverly’ ar y rhaglen deledu boblogaidd i blant yng Nghanada, Mr. Dress-up am bron i 30 mlynedd, fe ysgrifennodd ar gyfer Sesame Street a Shining Times Station, ac fe deithiodd ei sioeau gwreiddiol o amgylch Ontario. Ynghyd ag Elizabeth, maent wedi cyflawni mwy na dwsin o breswyliadau artist mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol yn New Brunswick ac Ontario.
Cyfarfu'r cwpl pwerus hwn gyntaf ym 1992 trwy gymuned artistig a rennir, a dechreuodd fflam eu cydweithrediadau ddisgleirio yn fuan wedyn, gan barhau hyd heddiw. Am y pum mlynedd diwethaf, mae Elizabeth wedi bod yn brif ofalwr ei gŵr. Ar ôl cael eu dadleoli yn ystod y pandemig, a symud chwe gwaith ar draws tair talaith mewn pum mlynedd, mae Elizabeth a Glenn bellach yn byw yn Hamilton, Ontario lle maen nhw'n brysur yn gweithio ar lyfr, ffilm fer, drama a mwy. Cadwch lygad am gerddoriaeth newydd Glenn yn ddiweddarach yn 2025.
Mae Glenn ac Elizabeth yn credu yng ngrym celf i newid bywydau. Mae eu gwaith yn ymwneud â’r gred honno.
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.