Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Boulez yn 100

Neuadd Hoddinott Y BBC

6 Mawrth 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Boulez yn 100 {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2299

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Boulez yn 100

6 Mawrth 2025

Neuadd Hoddinott Y BBC

Boulez Livres pour cordes

Berg Concerto i’r Ffidil

Boulez Memoriale

Messiaen Les Offrandes oubliées

Wagner Prelude und Liebestod o Tristan und Isolde

-

Daniel Cohen arweinydd

Ava Bahari ffidil

Matthew Featherstone ffliwt


CYFOES | DYLANWADOL | GOLEUEDIG

A hithau’n ben-blwydd Pierre Boulez yn 100 oed, mae’r arweinydd Daniel Cohen yn ymuno â BBC NOW am noson o berlau’r 20fed Ganrif, gan ddechrau gyda Livres pour cordes gan Boulez ei hun. Mae harddwch a dyfnder anfesuradwy yn rhedeg yn ddwfn yn y gwaith onglog a darniog hwn, sy’n hyfryd o delynegol drwyddo.

Bydd Ava Bahari yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW yng ngwaith enwocaf Berg, a’r un sy’n cael ei berfformio amlaf, ei Goncerto pwerus i’r Ffidil, cyn i Brif Ffliwtydd BBC NOW, Matthew Featherstone, gamu i safle’r unawdydd ar gyfer Memoriale Boulez, arddangosfa ddeinamig a meistrolgar o dechneg ffliwt estynedig. Ei gyn athro, a’i ddylanwad ysbrydoledig, Olivier Messiaen ddaw nesaf wrth i ni archwilio ei Les Offrandes oubliée ac rydyn ni’n profi cynnwrf cariad gwaharddedig yn ymgorfforiad cerddorol Wagner o ddrama, Tristan und Isolde.

Amser cychwyn: 7.30pm

Amser rhedeg: 95 munud

DAN 26 OED A MYFYRWYR

£6

DROS 65 OED, YN ANABL AC YN DDI-WAITH

£12

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC