Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.
Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.
Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i’r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan.
Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a pherfformiwyd yn wreiddiol ym Mhontypridd 2024.
Bydd capsiynau caeedig dwyieithog ar gael trwy Sibrwd, sef ap mynediad iaith Theatr Cymru. Gallwch lawrlwytho’r ap i’ch ffôn drwy’r App Store a’r Google Play Store.
"Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd."
Amser dechrau: 7pm, drysau 6.30pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Yn cynnwys goleuadau'n fflachio, synau uchel, iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at drais rhywiol
Iaith: Perfformir yn Gymraeg
BSL: Bydd y perfformiad am 7pm yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydeinig.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)