Ymunwch â ni ar 1 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil, gyda Cabaret Gŵyl Dewi – noson gartrefol o gerddoriaeth Gymraeg.
Bydd tri wyneb cyfarwydd: Siwan Henderson, Celyn Cartwright a Steffan Hughes yn uno i berfformio cyfres o ffefrynnau Cymraeg, o bop i werin, emynau i theatr gerdd.
Efallai eich bod chi’n eu hadnabod o’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End.
Astudiodd Siwan yn Mountview Academy of Theatre Arts ac mae ei phrofiad theatr yn cynnwys ‘It Happened in Key West’ yn Charing Cross Theatre a ‘The Pirate Queen’ yn London Coliseum. Yn ddiweddar bu’n chwarae Petra yn ‘Pobol y Cwm’ ar S4C ac mae wedi perfformio ar raglenni teledu fel ‘Noson Lawen’ a ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’.
Enillodd Celyn radd MA mewn Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn arwain cast ‘Come What May’ ar daith o’r DU a theithio’n rhyngwladol gyda ffenomenon byd-eang Michael Flatley ‘Lord of the Dance’. Mae hi hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a BBC Radio Cymru.
Mae Steffan wedi perfformio ar gyfer pobl fel Shirley Bassey a Catherine Zeta-Jones, rhannu’r llwyfan â pherfformwyr gan gynnwys Katherine Jenkins a Russell Watson, ac mae’n aelod o’r grŵp sydd wedi ennill Gwobr Brit Clasurol, Only Men Aloud. Mae’n cyflwyno ar Radio Cymru a Radio Wales yn ogystal â S4C. Steffan yw cyfarwyddwr creadigol Welsh of the West End, y mae eu fideos wedi cael eu gwylio dros 20 miliwn o weithiau ar-lein. Gwnaethon nhw syfrdanu cynulleidfaoedd yn rhyngwladol drwy gyrraedd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent ar ITV.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.