Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cate Le Bon

+ Kate NV

Theatr Donald Gordon

9 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Cate Le Bon {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2635

LLAIS

Cate Le Bon

+ Kate NV

9 Hydref 2025

Theatr Donald Gordon

Drysau yn agor: 7.30pm | Amser dechrau: 8pm Kate NV 9.30pm Cate Le Bon

Mae gwaith yr artist a’r cynhyrchydd aml-ddisgyblaethol o Gymru, Cate Le Bon, wedi herio categoreiddio ers tro byd. Dyma bensaer sain sy’n adeiladu tirweddau emosiynol o haniaetholdeb, gwead a thôn. 

Dros chwe albwm, gan gynnwys Reward a enwebwyd am Wobr Mercury a Pompeii a ganmolwyd i’r cymylau gan adolygwyr, mae Cate Le Bon wedi mireinio llais unigryw: yn rhannol swrealydd, yn rhannol gerflunydd, bob amser yn talu sylw i’r is-gerrynt emosiynol sy’n siapio’i gwaith. Mae ei chredydau cynhyrchu —sy’n rhychwantu Cousin gan Wilco, Phonetics On and On gan Horsegirl a’r albwm All Born Screaming gan  St. Vincent a enillodd wobr Grammy—yn adlewyrchu ffydd gadarn yn ei gallu i drawsnewid amgylcheddau sonig yn fydoedd agos, idiosyncratig. 

Wedi’i geni yng nghefn gwlad Sir Gar a bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae llwybr creadigol Le Bon wedi’i lywio gan unigrwydd a chydweithio. Mae ei phartneriaethau hir sefydlog gyda’i chyd-gynhyrchydd Samur Khouja a’r sacsoffonydd Euan Hinshelwood wedi dod yn rhan annatod o’r sain esblygol. Sain sy’n gyfuniad o gynhesrwydd analog, llais wedi’i hidlo, a threfniadau cerfluniol sy’n teimlo’n estron ac ar yr un pryd yn ddynol iawn.

Daw ei seithfed albwm, Michelangelo Dying, o le sy’n llawn emosiwn amrwd a bregusrwydd amharod. Mae’r albwm yn gylch caneuon disglair sy’n galaru am ffantasi, albwm sy’n pigo clwyfau hyd yn oed wrth iddi geisio eu cadw. Dyma fyfyrdod seithliw ar gariad, colled a’r hunan anhysbys.

Gyda chydweithrediad symudol gyda John Cale a phaled sonig sy’n plethu gitarau, sacsoffonau a synths yn rhywbeth sy’n agos ac yn eang, mae Le Bon unwaith yn rhagor yn ein gwahodd ni i fyd lle mae teimlad yn goresgyn ffurf ac mae haniaethu yn dod yn ei fath ei hun o wirionedd.

Kate NV

Kate NV yw persona unigol amlochrog yr artist Kate Shilonosova. Yn newidwraig sy’n dilyn 'afflatus' ym mhob ffurf, mae NV yn fyfyrwraig pensaernïaeth, yn darlunio cymeriadau chwilfrydig a lliwgar, ac yn byrfyfyrio’n fyw gyda chlychau a gwydrau dŵr ymhlith syntheseisyddion cryno a cheblau.

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged.

Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwr y Byd Caerdydd a Ceci est mon coeur.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon