Mae Ceci Est Mon Coeur (Dyma fy nghalon) yn waith safle-benodol ymdrochol sy’n archwilio stori gariad anarferol, am blentyn yn derbyn ei gorff. Mae’n hanes ymdrochol lle mae’r gynulleidfa, wedi’u lapio mewn dilledyn cysylltiedig wedi’i addurno â brodwaith disglair, yn cael eu hymgolli mewn profiad barddonol sy’n glywedol ac yn weledol.
Mae Ceci Est Mon Coeur yn cynnig hynt synhwyraidd lle mae’r gynulleidfa yn gweld y dilledyn cysylltiedig yn goleuo mewn cydamser â thestun y stori.
Profiad Ymdrochol wedi'i gyfarwyddo gan Nicolas Blies
a Stéphane Hueber-Blies
Cynhyrchwyr
a_BAHN,
Cyd-gynhyrchwyr
Lucid Realities a PHI Studio
Amser rhedeg: 45 munud
Canllawiau oedran: 13+
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu'n hŷn
Datganiad yr Artist:
Mae adhawlio eich corff yn fater cyfoes enbyd. Mae Ceci est mon cœur yn llwyfan ardderchog ar gyfer mynd i’r afael â phynciau mawr fel cywilyddio corfforol, cam-drin rhywiol, bwlio ysgol ac iselder. Mae gan bob un ohonon ni gorff, ac ar ryw bwynt, rydyn ni gyd yn ei wynebu mewn rhyw ffordd. Ychydig iawn o bobl sydd yn gwbl gyfforddus â’u cyrff. I raddau amrywiol, mae ganddon ni i gyd berthynas gymhleth â nhw. Mewn gwirionedd, ymhlith pryderon mwyaf cyffredin pobl ifanc heddiw, mae delwedd corff yn y tri uchaf yn gyson. Fodd bynnag, rydyn ni’n credu’n gryf yn y dewrder a welir mewn eiddilwch. Er bod y stori yn seiliedig ar ein profiadau personol ni, ni ellir nodi’r trawma penodol mae’r adroddwr yn ei wynebu. O ganlyniad, mae’r darn yma yn hygyrch i unrhyw un, ac yn caniatáu i bawb daflunio eu profiadau eu hunain. Yn y pen draw, stori gariad wirioneddol yw Ceci est mon cœur.
Oriau agor:
Sul – Llun 11am – 4pm
Maw – Sad 11am – 6pm
Talwch beth y gallwch: £4, £8 neu £10.
Cwestiynau Cyffredin
Beth alla i ei ddisgwyl o’r profiad?
Mae Ceci Est Mon Coeur yn brofiad ymdrochol lle byddwch chi’n gwisgo dilledyn ymoleuol arloesol a fydd yn goleuo mewn cydamser â’r stori. Byddwch chi’n gwisgo clustffonau i wrando ar lais yr adroddwr a bydd y gofod ffisegol yn llawn tafluniadau wedi’u mapio i'ch ymdrochi chi yn llwyr.
Beth yw hyd y profiad?
Mae’r profiad yn para 45 munud gan gynnwys amser gwisgo a dadwisgo’r offer.
Pa offer sydd eu hangen i gymryd rhan yn y profiad?
Byddwch chi’n gwisgo clustffonau a dilledyn ymoleuol, a fydd yn cael eu darparu a’u gosod gan ein staff Bocs hyfforddedig.
Ym mha iaith mae’r profiad yn cael ei gyflwyno?
Mae’r profiad yn cael ei gyflwyno yn Saesneg neu Ffrangeg.
Oes staff ar gael drwy gydol y profiad?
Oes, bydd ein staff Bocs wrth law i'ch arwain a’ch cefnogi drwy gydol ein profiad.
Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl sydd â symudedd llai?
Ydy, mae’r profiad yn hygyrch i bobl sydd â symudedd llai. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) fel y gallwn ni baratoi ar eich cyfer.
Ydy’r profiad yn hygyrch i blant?
Argymhellir y profiad hwn i bobl 13 oed a throsodd. Nid yw'r cynnwys yn addas i wylwyr iau. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn.
Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?
Bydd Cynorthwywyr Cwsmeriaid wrth law i ddarparu cymorth ac arweiniad trwy gydol y profiad os bydd ei angen arnoch.
Rydym yn glanhau ac yn diheintio'r holl offer yn drylwyr, gan gynnwys clustffonau a chlustffonau, gyda chadachau gwrthfacterol gradd ysbyty cyn pob defnydd.
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu'n hŷn.
Ni chaniateir babanod mewn slingiau y tu mewn i'r profiad.
Ni chaniateir i unrhyw westeion sy'n cyrraedd ar gyfer y profiad sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau gymryd rhan.