DUW A’N GWAREDO HELPO
Mae’r Cornley Amateur Drama Society ‘nôl gyda newyddion da o lawenydd ac anhrefn, yn barod i fynd i’r afael â chlasur Charles Dickens, A Christmas Carol.
Mae cynhyrchiad newydd o Christmas Carol Goes Wrong yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru cyn rhediad cyfyngedig iawn yn y West End. Peidiwch â cholli’r trychineb Nadoligaidd yma gan Mischief, y cwmni arobryn tu ôl i The Play That Goes Wrong, Peter Pan Goes Wrong a The Comedy About a Bank Robbery.
Wrth i griw Cornley frwydro camfynegi, oedi i’r set, actorion coll a gelyniaeth gynyddol dros bwy fydd yn chwarae’r brif ran, mae’n siŵr o fod yn fersiwn trychinebus o’r stori Nadoligaidd boblogaidd am Ebenezer Scrooge. A fydd Cornley yn newid eu ffordd, neu a fydd eu hanlwc yn achosi llanast gyda chanlyniadau afreolus?
Mwynhewch ychydig o ddihangdod pur yn y cynhyrchiad gwaethaf o Nadolig y gorffennol, presennol ac eto i ddod! Peidiwch â bod fel Scrooge, archebwch nawr.
Canllaw oed: 8+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Gall gynnwys goleuadau sy'n fflachio, goleuadau strôb, pyrotechneg a synau uchel
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
Perfformiadau Hygyrch
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 20 Tachwedd 2025, 7.30pm
Perfformiad gyda chapsiynau: 21 Tachwedd 2025, 7.30pm
Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 22 Tachwedd 2025, 2.30pm
Taithiau Cyffwrdd: 22 Tachwedd 2025, 1pm
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
O DAN 16
Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Maw - Iau).
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd