Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cirque Éloize: iD Reloaded

30 Medi + 1 Hydref 2025

Theatr Donald Gordon

Ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen o 10am 13 Ionawr
Ar werth i Aelodau Ffrind a Ffrind+ o 10am 15 Ionawr
Ar werth i Grwpiau o 10am 16 Ionawr
Ar werth i’r cyhoedd o 10am 17 Ionawr

Cymysgedd o ddawns drefol, styntiau beiddgar a champau acrobatig disglair.

Mae iD Reloaded, sydd wedi’i ysbrydoli gan iD, llwyddiant arloesol ac anhygoel Cirque Eloize yn y West End ac yn rhyngwladol, yn gymysgedd meddwol o gelfyddydau syrcas a cherddoriaeth dawns drefol; “b-boying/b-girling”, brecddawnsio, hip hop a mwy.

Mae’r olygfa wedi’i gosod yng nghanol dinas, mewn man cyhoeddus lle mae pobl yn ceisio lloches a chyfle i golli eu hanhysbysrwydd: lle caiff hunaniaeth ei ffurfio ac unigoliaeth ei mynegi. Mae’r llwyfan yn hisian ac yn gwefreiddio gydag egni heintus a champau corfforol gwyrthiol, wrth i 12 aelod o gast talentog criw syrcas cyfoes Canada Cirque Eloize berfformio yn erbyn caleidosgop o dafluniadau fideo anhygoel.

Wedi’i osod i drac sain dirgrynol a chyffrous gan Jean-Phi Concalves (Beast) ac Alex McMahon, ac wedi’i gyfarwyddo a’i greu gan Jeannot Painchaud, mae iD Reloaded yn ddarn cynhyrfus o waith, yn llawn agwedd, egni a dyfeisio.

“Mixes circus and urban dance to cracking effect. The skill and excitement levels and are sky high”

The Guardian

“This truly thrilling modern circus show from the Canadian-based troupe was as nail-biting as it was beautiful"

The Telegraph

Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed)

Amser cychwyn: 7.30pm

Hyd y perfformiad: tua 75 munud (heb egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig
Ymaelodi

GRWPIAU

Grwpiau o 10+, gostyngiad o £4 (seddi dethol)
Dyddiad talu grwpiau: 1 Gorffennaf 2025
Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £4

16–30

Gostyngiad o £8 (seddi dethol)

Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon