Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Toriadau i'r Gyllideb: Creadigrwydd Cost-Effeithiol

29 Medi 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Toriadau i'r Gyllideb: Creadigrwydd Cost-Effeithiol {{::on_sale_date.label}} MM/DD/YYYY 15 event-2774

Stiwdio Scratch

Toriadau i'r Gyllideb: Creadigrwydd Cost-Effeithiol

Ymunwch ag Alice Marie ar gyfer gweithdy ymlaciol ac ymarferol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion sydd eisiau archwilio celf a chreadigrwydd heb bwysau ariannol.

Yn y sesiwn yma, byddwch chi’n dysgu sut i wneud gweithiau celf ystyrlon a thrawiadol gan ddefnyddio deunyddiau pob dydd syml! Fel papur sgrap, hen amlenni, cylchgronau a mwy. P’un a yw creu celf yn newydd sbon i chi neu os ydych chi eisiau ailgysylltu â’ch ochr creadigol, mae’r gweithdy yma yn eich gwahodd chi i ddarganfod llawenydd creadigrwydd, heb gyllideb fawr.

Disgrifiad o’r Artist [hi]

Mae Alice Marie yn artist collage, darlunydcad a hwylusydd gweithdy sy’n angerddol dros arferion celf cynaliadwy a hyrwyddo llesiant emosiynol drwy greadigrwydd. Mae’n byw yn Ne Cymru, ac mae ei gwaith yn archwilio pŵer creu celf gyda deunyddiau hygyrch pob dydd fel ffordd o fynegi eich hun. Mae Alice Marie wedi arddangos ei gwaith mewn orielau ledled yr ardal ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w gwaith celf cymunedol a therapiwtig. 

Canllaw oed: 14+, rhaid i rai dan 18 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn

Amser dechrau: 10:00 am + 1:00 pm 

Hyd y perfformiad: tua 2 awr