Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
XR Desk

Creu XR

Wedi'i ariannu gan Cymru Greadigol, wedi'i guradu gan XRDI

12 Tachwedd 2025 - 11 Chwefror 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Creu XR {{::on_sale_date.label}} MM/DD/YYYY 15 event-2797

Creu XR

Wedi'i ariannu gan Cymru Greadigol, wedi'i guradu gan XRDI

12 Tachwedd 2025 - 11 Chwefror 2026

Ydych chi’n unigolyn 16-25 efo diddordeb mewn archwilio technoleg greadigol a phrofiadau ymdrochol?

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru bob dydd Mercher, yn dechrau o ddydd Mercher 12 Tachwedd 2025, lle y byddwch yn cydweithion agos ag arbenigwyr i ddod â’ch syniadau yn fyw gan ddefnyddio technoleg ymdrochol 

Yn ystod y cwrs Create XR 12 wythnos o hyd, bydd ein hwyluswyr anhygoel yn dysgu sgiliau sylfaenol a phrosesau cynhyrchu er mwyn i chi ddatblygu eich prototeipiau XR (realiti estynedig) eich hun. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich syniadau ar gyfer VR, AR neu hyd yn oed creu ffilmiau ymdrochol, bydd ein hwyluswyr arweiniol Klaire a James yn helpu i siapio eich syniadau ochr yn ochr â thîm o fentoriaid gydag arbenigeddau amrywiol yn y diwydiant yma

Ynglŷn â’r Hwyluswyr:

Klaire Tanner

Ers dros 14 mlynedd, rydw i wedi ymgolli'n llwyr ac yn angerddol ym myd technoleg arloesol, gan archwilio ei botensial creadigol ar brosiectau masnachol, gan gynnwys Realiti Rhithiol (VR) a Realiti Estynedig (AR). Mae gweld esblygiad technoleg ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn hynod ddiddorol. 

Gyda phob menter newydd, mae fy angerdd dros greu cynhyrchion rhyngweithiol gyda pheiriannau gemau wedi tyfu'n esbonyddol. Wrth i mi weithio mewn gwahanol stiwdios, cefais fy nennu fwyfwy at y biblinell datblygu cynnyrch cyfan. O weithio ar y cydsyniad a dyluniadau i rannu'r cynnyrch terfynol gyda'r byd a darparu ôl-ofal, cefais fy swyno gan sut y gallai cynnyrch digidol effeithio'n gadarnhaol ar ddefnyddwyr terfynol. 

Fy nod yn y pen draw yw creu profiadau ystyrlon ac effeithiol trwy fy ngwaith. Rwy'n credu yng ngrym technoleg a chreadigrwydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl, ac rwy'n ymroddedig i wthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl yn y sector digidol.

James Taylor

Rwy'n arbenigwr y cyfryngau a thechnolegydd creadigol sydd wedi gweithio ar brosiectau gyda'r BBC, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, llywodraeth leol, cwmnïau theatr, busnesau bach, y celfyddydau a threftadaeth, a'r sector ieuenctid. A hynny fel gwneuthurwr ffilmiau, golygydd fideo, peiriannydd sain, cyfarwyddwr technegol, ymgynghorydd, crëwr marchnata digidol, ac addysgwr, i enwi ond ychydig. 

Mae'r profiad yma wedi fy ngalluogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth mewn marchnata a chyfathrebu digidol, creu ffilmiau, cynhyrchu sain, ffotograffiaeth, ac mewn addysg, ac rwy'n cymhwyso hyn i'm gwaith fy hun fel crëwr, ymgynghorydd, ac yn fy ngwaith addysg fel hyfforddwr cyfryngau annibynnol. 

Dechreuodd fy nhaith trwy’r cyfryngau yn ifanc. Roedd gen i ddiddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol (ffotograffiaeth, ffilm, teledu) o'r tro cyntaf i mi weld camera, a chael arbrofi gyda thynnu lluniau a ffilmio. Datblygodd y diddordeb hwn a'm profiad dros amser. Fe ges i gamcordor fy hun a threuliais amser yn creu ffilmiau byrion. Bues i hefyd yn tynnu lluniau llonydd gyda chamera SLR fy Nhad, a gyda'r profiad hwn datblygais angerdd am adrodd straeon gweledol a'r cyfryngau. 

Er fy mod yn byw yn ne-orllewin Cymru hyfryd, rwy'n gweithio gyda chleientiaid o bob cwr o'r DU i ddod â'u gweledigaeth yn fyw, boed hynny trwy adrodd straeon gweledol i hyrwyddo busnesau neu i ddal atgofion gwerthfawr, helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o grewyr cynnwys trwy hyfforddiant proffesiynol, neu roi cymorth i addasu i'r dirwedd cyfryngau sy'n newid yn barhaus.

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

Pryd mae'r cwrs?

Mae'r cwrs yn rhedeg am 12 wythnos rhwng 12 Tachwedd a 13 Chwefror o 5pm i 7pm. Bydd pythefnos o wyliau Nadolig ar 25 Rhagfyr ac 1 Ionawr.

Bydd cwpl o sesiynau hirach ddydd Sadwrn

Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025 - 10.00 - 16.00
Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2026 - 10.00 - 16.00

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y 12 wythnos.