Ymunwch â ni yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd yr haf hwn ar gyfer ein cyngherddau amser cinio arbennig, a gyflwynir gan Lesley Hatfield, arweinydd BBC NOW.
Byddwn yn dechrau gyda Symffoni Rhif 64 gan Haydn, sef ei gampwaith Sturm und Drang.
Mae Punctum gan Caroline Shaw wedi cael ei ysbrydoli gan Ddioddefaint Sant Mathew gan J S Bach, ond mae’n ystumio cyd-destun y dilyniannau modiwlaidd gan ddwyn ysbrydoliaeth gan ôl-strwythuraeth Ffrengig, i greu archwaeth synhwyraidd o glasuriaeth heb ffurf. Yna, gyda’i arddull sy’n amrywio o Cantabile a walts felodaidd araf i scherzos bywiog ac afiaith digrif, bydd y Serenâd i’r Llinynnau gan Dvořák yn dod â’r cyngerdd hwn i ben yn llawn gorfoledd.
Haydn Symffoni Rhif 64
Caroline Shaw Punctum
Dvořák Serenâd i’r Llinynnau
-
Lesley Hatfield cyfarwyddwr/ffidil
Amser cychwyn: 2pm
Amser rhedeg: 65 munud
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
DROS 65 OED, YN ANABL AC YN DDI-WAITH
£12
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.