Dathliad o bopeth drwg a da, gyda digonedd o elfennau nwydus ac amheus i'r synhwyrau i gyd.
Ymunwch â Deeva D a ffrindiau am noson o cabaret, bwrlésg, comedi a drag, gyda pherfformwyr llwyddiannus o bob rhan o’r DU, ac eiconau lleol hefyd.
Mae Devious Delights yn mentro i'r temtasiynau gwaharddedig a oedd bob amser yn rhy dda i fod yn wir. Y danteithion melys sy’n cael eu cadw ar gyfer achlysuron arbennig, a’r syrpreisys pefriog roeddech chi ond yn gallu eu haddoli o bell, ond byth eu cyffwrdd. Dathliad yw hwn, arddangosfa, gwahoddiad i ymuno â Deeva D i fwynhau’r pleserau gorau sydd gan cabaret i'w cynnig.
Gyda Deeva D, Lilly Snatchdragon, Cadbury Parfait a mwy o westeion arbennig.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref; noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.