Mae Divina de Campo yn dychwelyd gydag I Do Think, sioe un fenyw wefreiddiol sy’n archwilio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd, a phopeth yn y canol.
O gylchdroi’r sêr i ddod yn un, ymunwch â Divina wrth iddi sôn am ei thaith arbennig drwy’r llwyfan, sgrin a hyd yn oed stondin farchnad achlysurol. Yn ei hanfod, mae I Do Think yn myfyrio ar un gwirionedd pwerus: Bydd pobl yn meddwl beth bynnag maen nhw eisiau amdanoch chi, ond yr unig beth y gallwch chi ei reoli yw bod yn chi eich hun. Ar ôl llawer o feddwl, therapi a myfyrio, mae Divina yn rhannu ei darganfyddiadau diffuant gyda digonedd o hiwmor.
Gallwch chi ddisgwyl cymysgedd lliwgar o gomedi, cerddoriaeth danbaid a straeon personol wrth i Divina fynd â chi thrwy ei byd o hunanfyfyrio, cusanu brogaod ac eiliadau bythgofiadwy.
Stori wedi’i fyw yn dda, ei hadrodd yn brydferth, ac sy’n gwbl wir.
“Divina De Campo has more than just drag queen swagger; she matches her stage
presence with an effortless vocal range”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Mae'n bosib bydd y sioe'n cynnwys iaith gref
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.