Dewch i mewn i fyd sy’n llawn troeon cynhyrfus ac epig, lle caiff y llythyr cariad eithaf i arswyd ei ddychmygu’n fyw ar y llwyfan.
Pan mae’r Athro Goodman, amheuwr mawr sy’n bwriadu chwalu bri’r goruwchnaturiol, yn ymgymryd ag ymchwiliad i dri achos honedig o ysbrydion – fel yr adroddwyd gan wyliwr nos, bachgen yn ei arddegau a dyn busnes sy’n disgwyl ei blentyn cyntaf – mae Goodman yn ffeindio ei hun wrth derfyn rhesymegedd, ac yn rhedeg allan o esboniadau yn gyflym.
Ghost Stories, sy’n brofiad synhwyraidd a gwefreiddiol, yw un o’r dramâu a gafodd yr adolygiadau gorau erioed yn Llundain, a bydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Mae hwn yn brofiad theatraidd unigryw.
An immaculately crafted evening of entertainment
Ar ôl llonni cynulleidfaoedd ledled y byd gyda chynyrchiadau a werthodd allan ac a dorrodd recordiau a ffilm lwyddiannus, mae Ghost Stories gan Andy Nyman a Jeremy Dyson wedi cael ei disgrifio fel “Genuine scary fun” (Sunday Times), ac mae’n ffenomenon byd-eang sy’n fwy iasol ac arswydus nag erioed o’r blaen.
Ydych chi’n ddigon dewr i archebu?
I had to sleep with the lights on
Cyfyngiad Oed: 15+
Yn cynnwys iaith gref, goleuadau strôb a chleciau uchel.
Nodwch: mae Ghost Stories yn cynnwys eiliadau o densiwn a sioc eithafol. Nid yw’r sioe yn addas i unrhyw un o dan 15 oed. Rydyn ni’n cynghori pobl sydd o natur nerfus i feddwl o ddifrif cyn dod.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 30 munud (dim egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y perfformiad agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Aelodaeth.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Maw - Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp
16-30
Gostyngiad o £8. Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy