Mae Giovanni Pernice, y dawnsiwr proffesiynol o Strictly Come Dancing, yn dychwelyd yn 2025 gyda’i daith The Last Dance.
Mae pencampwr Strictly 2021 a’r enillydd gwobr BAFTA yn camu ar y llwyfan unwaith eto gyda’i gwmni o berfformwyr o safon fyd-eang.
Mae Giovanni, maestro Eidalaidd dawns, yn cyflwyno The Last Dance, cynhyrchiad gafaelgar sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau perfformiad byw.
Gyda gyrfa sydd wedi’i gwreiddio mewn angerdd, ymroddiad a chelfyddyd unigryw, mae Giovanni wedi dod yn enw cyfarwydd, gan gyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i berfformiadau gwefreiddiol a’i garisma dihafal.
Peidiwch â cholli ‘The Last Dance’ gan Giovanni ar daith yn 2025.
Cwrdd a Chyfarch VIP
£130 – Mae tocynnau Cwrdd a Chyfarch VIP yn cynnwys tocyn sioe, cyfle i gwrdd â Giovanni i gael llun a llofnod, print wedi’i lofnodi a laniard VIP.
Bydd y sesiwn Cwrdd a Chyfarch yn digwydd dwy awr cyn y perfformiad am 3pm.
Defnyddiwch y cyfleuster 'dewis yn ôl pris' yn hytrach na'r map seddi wrth archebu i ddewis tocynnau VIP.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
Rhybuddion: Gall gynnwys tawch, mwg a goleuadau sy’n fflachio
Amser dechrau: 5pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.