Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
desktop

GWEITHDY BWRLÉSG GYDA FOOFOO LABELLE

13 Rhagfyr 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London GWEITHDY BWRLÉSG GYDA FOOFOO LABELLE {{::on_sale_date.label}} MM/DD/YYYY 15 event-2851

GWEITHDY BWRLÉSG GYDA FOOFOO LABELLE

13 Rhagfyr 2025

Dewch i fwynhau!

I ddathlu dechrau rhediad y Big Burlesque Pantomime yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae creawdwr y sioe a’r seren ryngwladol FooFoo LaBelle yn cynnig gweithdy dawns am ddim ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr rhwng 3pm a 4pm yn Ystafell Preseli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Datgelwch eich persona llwyfan a phlymiwch i mewn i fyd cyffrous merch sioe gyda Brenhines Bwrlésg Cymru. Mae croeso i bob rhywedd, oed (dros 18) a math corff wrth i ni archwilio’r byd bwrlésg i ddod o hyd i’ch difa mewnol.

Meistrolwch y symudiadau: bwmpo, shimi, ystumio ac ychwanegu sass wrth i ni baratoi perfformiad bwrlésg byr. Bydd y gweithdy yn cynnwys tynnu menig – peidiwch â phoeni, menig yw’r unig ddillad y byddwch chi’n eu tynnu!

Gwisgwch ddillad cyfforddus neu ymarfer.

Caiff menig eu darparu.

Foo Foo LaBelle

Mae’r seren ryngwladol Foo Foo LaBelle wedi bod yn perfformio ledled y byd ers dros 30 mlynedd! Yn ddawnsiwr, coreograffydd, cynhyrchydd, mam a pherchennog busnes, ffurfiodd FooFoo Glwb Cabaret Caerdydd yn 2007. Mae wedi cynhyrchu dros 250 o sioeau ac addysgu miloedd o ddosbarthiadau a gweithdai lle mae croeso i berfformwyr o bob oed a phrofiad.