Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Tu Ôl i’r Llen

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

20 Ionawr – 17 Chwefror 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gwneuthurwyr Theatr: Tu Ôl i’r Llen {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2484

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Tu Ôl i’r Llen

14 – 25 oed

20 Ionawr – 17 Chwefror 2025

Canolfan Mileniwm Cymru

Wyt ti erioed wedi dyfalu sut beth yw dod â chynhyrchiad theatr yn fyw?

Tu hwnt i’r actorion a’r sgript mae byd o fanylion cywrain ac arbenigedd technegol. Mae ein cwrs cynhwysfawr Gwneuthurwyr Theatr: Tu Ôl i’r Llen wedi’i gynllunio i ddatgelu’r hud sy’n digwydd gefn llwyfan. P’un a wyt ti’n weithiwr theatr proffesiynol awyddus neu’n berson brwdfrydig a chwilfrydig, bydd y cwrs yma yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ti i ddeall a chyfrannu at fyd cyfareddol cynhyrchu theatr, gyda ffocws penodol ar sain a goleuo.

Trosolwg o’r Cwrs

Yn y cwrs ymdrochol yma byddi di’n:

– Magu dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion sain a goleuo, sy’n hanfodol ar gyfer creu’r awyrgylch cywir ar gyfer unrhyw gynhyrchiad.

– Cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol sy’n cwmpasu popeth o osod cyfarpar i gyflawni perfformiad byw.

– Dysgu sut i weithredu cyfarpar sain a goleuo safonol y diwydiant, gan gynnwys consolau, microffonau, gosodion goleuo a mwy.

– Archwilio ochr artistig dylunio sain a goleuadau, gan ddeall sut i uwchraddio adrodd straeon drwy elfennau technegol.

– Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau i ddelio â’r heriau dynamig sy’n codi yn ystod perfformiad byw.

Pam dewis y cwrs yma?

- Hyfforddwyr arbenigol: Caiff ein cwrs ei arwain gan dechnegwyr proffesiynol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sydd â blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant theatr.

- Dysgu rhyngweithiol: Byddi di’n cael budd o gyfuniad o wersi damcaniaethol a sesiynau ymarferol, gan sicrhau profiad dysgu cyflawn.

- Cyfleoedd rhwydweithio: Byddi di’n cysylltu ag unigolion tebyg ac arbenigwyr yn y diwydiant, gan agor drysau i gydweithredu a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Pobl greadigol ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n:

- Dechnegwyr a gwneuthurwyr theatr awyddus: Os wyt ti eisiau dechrau gyrfa mewn cynhyrchu theatr, mae’r cwrs yma yn rhoi’r sgiliau a gwybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnat ti.

- Frwdfrydig dros theatr: Byddi di’n datblygu gwerthfawrogiad dyfnach o theatr drwy ddeall y gwaith sy’n rhan o bob cynhyrchiad tu ôl i’r llen.

Pryd mae'r cwrs?

Cynhelir y cwrs bob dydd Llun, 6pm – 8pm am bum wythnos o 20 Ionawr i 17 Chwefror.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pum wythnos.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

Beth os oes angen cymorth ychwanegol arna i neu mae gen i anghenion hygyrchedd?

Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol neu sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad byw lle gall fod angen addasiadau, cefnogaeth neu sensitifrwydd.

Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru