Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
desktop-30-october-2025

Halloween Spooktacular

Neuadd Hoddinott Y BBC

30 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Halloween Spooktacular {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2739

Halloween Spooktacular

Halloween Spooktacular

30 Hydref 2025

Neuadd Hoddinott Y BBC

Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fis Hydref ar gyfer dychweliad Cyffro Calan Gaeaf – cyngerdd bythgofiadwy sy'n llawn cerddoriaeth, arswyd a hwyl hudolus!

Dyma gyngerdd i’r teulu cyfan a fydd yn siŵr o godi ofn a chodi’r ysbryd, gydag Owain Wyn Evans yn cyflwyno ac Ellie Slorach yn arwain. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth eiconig ac atmosfferig gyda naws iasol, hudol a hwyliog.

Byddwch yn barod i deimlo ias i lawr eich cefn wrth i chi glywed detholiad gwefreiddiol o weithiau cerddorol – gan gynnwys Thema Hedwig o Harry Potter and the Philosopher's Stone, thema ddychrynllyd y siarc o Jaws, y thema hedfan esgynnol o E.T. the Extra-Terrestrial, ac arwyddgan eiconig Doctor Who.

P'un a ydych chi'n hoff o sgorau sinematig, yn deulu sy'n chwilio am ddigwyddiad tymhorol hwyliog, neu’n rhywun sydd wedi gwirioni ar Galan Gaeaf, bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys cerddoriaeth gerddorfaol gyffrous, eiliadau dramatig, ac ambell syrprèis chwareus ar hyd y ffordd.

Mae cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i ddod mewn gwisg ffansi – gorau po fwyaf creadigol. O wrachod a dewiniaid i anghenfilod ac archarwyr, mae gwisg ffansi yn ychwanegu at ysbryd yr ŵyl ac mae'n rhan o'r hwyl!

Mae'r cyngherddau calan gaeaf hyn yn ôl am eu bod wedi bod yn boblogaidd yn y gorffennol. Fel arfer, mae’r tocynnau i gyd yn gwerthu’n gyflym, felly rydyn ni'n argymell archebu'n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Rhaglen

Bach arr. Lawson Toccata a Fugue in D minor
Pärt Cantus in Memoriam Benjamin Britten
Mussorgsky orch. Ravel Baba Yaga o Pictures at an Exhibition
John Williams Hedwig’s Theme o Harry Potter and the Philosopher's Stone
Mussorgsky Night arr. Rimsky-Korsakov Night on Bald Mountain
Murray Gold arr. King Doctor Who Theme
Shostakovich II. Allegro o Symphony No. 10 mewn E minor
John Williams The Shark Theme o Suite from Jaws
Saint-Saëns Danse Macabre Op.40
Prokofiev VII. Cinderella’s Waltz a VIII. Midnight from Cinderella’s Suite No. 1, Op. 107
Grieg Peer Gynt: In the Hall of the Mountain King
John Williams Flying Theme from E.T

Owain Wyn Evans – Cyflwynydd
Ellie Slorach - Arweinydd

Canllaw oed: 3+

Amser cychwyn: 3pm & 7pm

Perfformiadau Hygyrch: Dehongli BSL – yn unig

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

Myfyrwyr, Dan 16 oed & Dan 26 oed

£6

TOCYNNAU TEULU

£25 (uchafswm o 2 docyn Cyffredinol a 2 docyn Dan 16 oed)
Ni allwch archebu'r cynnig hwn gydag unrhyw docynnau eraill - bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC