Ar y cwrs hyfforddi hwn sy'n chwe wythnos o hyd, byddwch yn dysgu sut i greu rhaglen radio neu bodlediad. Mae'r cwrs yn un achrededig, gyda'r cyfle i chi gyflawni Agored Cymru Unit.
Byddwch hefyd yn dysgu am y mathau gwahanol o gynnwys radio, sut i hel a chreu straeon newyddion, a chreu recordiadau o ansawdd uchel. Rhowch gynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sydd o bwys i chi.

P’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu â dim profiad o’r cyfrwng, mae’r cwrs yma wedi’i deilwra i’ch cefnogi chi, beth bynnag eich lefel o brofiad.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae croeso i’r cyfranogwyr ymuno â thîm Radio Platfform – i gyflwyno, creu sioeau ar gyfer yr orsaf ac ymwneud â digwyddiadau ecsgliwsif i aelodau Radio Platfform.
Pryd mae'r cwrs?
Bob dydd Iau, 6pm – 8pm dros chwe wythnos yn dechrau 16 Ionawr i 20 Chwefror.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.
Beth os oes angen cymorth ychwanegol arna i neu mae gen i anghenion hygyrchedd?
Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol neu sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad byw lle gall fod angen addasiadau, cefnogaeth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.