Mae cynhyrchiad llwyddiannus y London Palladium o Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat gan Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber yn dychwelyd i Gaerdydd!
Mae’r sioe arobryn wedi cael ei pherfformio cannoedd o filoedd o weithiau gan gynnwys sawl cyfnod yn y West End ac ar Broadway, teithiau rhyngwladol mewn dros 80 o wledydd ac mae wedi dod yn un o sioeau cerdd teuluol mwyaf poblogaidd y byd.
Mae’n cynnwys caneuon theatr gerdd a phop poblogaidd, gan gynnwys Any Dream Will Do, Close Every Door, There’s One More Angel In Heaven a Go, Go, Go Joseph.
Archebwch eich tocyn heddiw!
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys goleuadau sy'n flachio
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Sad 2.30pm + Sul 1pm
Hyd y perfformiad: i'w gadarnhau (gan gynnwys un egwyl)
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Mawrth – Iau (2 bris uchaf)
Dyddiad talu grwpiau 21 Ebrill 2025
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5, Mawrth – Iau (2 bris uchaf).
16–30
Gostyngiad o £8, Mawrth – Iau (prisiau 2 + 3).
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.