Yn ffres o lwyfan Ru Paul’s Drag Race UK, mae Kate Butch, y ddigrifwraig sy’n trawswisgo, wedi ysgrifennu sioe gerdd jiwcbocs yn seiliedig ar ganeuon Kate Bush (dychmygwch Mamma Mia! ar ôl dioddef chwalfa nerfol). Mae hi’n gofyn am eich cymorth chi i gael "BUSH!" i Broadway.
Ymunwch â’r 'great comedian' (WhatsOnStage) wrth iddi redeg i fyny’r bryn, gyda chomedi stand-yp, canu byw, strafagansa cydwefuso a mwy o ‘cloudbusting’ nag oeddech chi’n dychmygu'n bosib. Enillydd Comedi Gorau Gŵyl Ymylol Buxton, 2017 a 2019.
Yn cyflwyno gan Lee Martin ar ran Gag Reflex
"A pitch perfect performance"
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybudd: Iaith gref
Cwrdd a Chyfarch: Nifer cyfyngedig o docynnau £30 sy'n cynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch. Tocynnau safonol £20.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.