Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Key Change!

Stori Blygu Amser o Hip-Hop, Cariad a Chwyldro

Stiwdio Weston

25-26 Ebrill 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Key Change! {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-2548

Key Change!

Stori Blygu Amser o Hip-Hop, Cariad a Chwyldro

25-26 Ebrill 2025

Stiwdio Weston

Dyw amser ddim yn aros i neb... neu ydy e?

Dau warchodwr amser, ceidwaid-curiad ffawd. Maen nhw’n troelli’r cloc fel bwrdd tro, gan wneud yn siŵr bod hanes yn digwydd mewn pryd. Ond pan mae rhywun yn torri’r rheolau ac yn ymyrryd â ffawd, mae un tro amser yn anfon tonnau drwy’r oesoedd, gan newid bywydau nad oedd byth i fod i groesi.

O gerbydau llawn mwg 1901 i egni crai partïon tŷ yr 80au a strydoedd llawn graffiti y 90au, rydyn ni’n reidio rhythm symud ymlaen ac yn ôl mewn hanes.

Wrth wraidd popeth mae Aaron a Shay – dau ddieithryn wedi’u cysylltu gan glitsh mewn amser. Mae gan Aaron gyfrinachau, mae’n wael am gadw amser, ac mae Shay yn dechrau gofyn tybed a yw hi wedi cerdded i mewn i rywbeth mwy na stori gariad.
Wrth i’r gorffennol a’r presennol wrthdaro, mae brwydr dros reolaeth. Ydy hi’n bosibl ailgymysgu ffawd, neu oes gan amser ei lif ei hun na all neb ei ailysgrifennu?

Mae Key Change! yn gyfuniad llawn egni o theatr hip-hop, emosiynau crai a straeon sy’n gwyrdroi amser. Mae’n meiddio gofyn: pe bai gen ti’r pŵer i newid amser, fyddet ti?

Noder: Bydd y perfformiad ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill yn cynnwys perfformiadau gan Larynx Entertainment a chydnabyddiaeth o aelodau Platfform cyn y sioe. Bydd hyn mewn perthynas â’n digwyddiad Dros Nos i aelodau ein rhaglen Platfform.

Tîm Creadigol

Tia Camilleri | Cyfarwyddwr / Llenor 

Ndidi Spencer | Cyfarwyddwr/ Llenor 

Mackenzie Steed | Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant 

Lily Webbe | Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant 

Sophie McLean | Rheolwr Llwyfan 

Chloe Parkes | Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol 

Lydia Durnall | Cynhyrchydd / Dylunydd Set 

Stacey Brown | Cynhyrchydd 

James Harvey | Cynllunydd Goleuo 

Connor Mullins | Rheolwr Cynhyrchu / Sain

Jason Camilleri | Uwch Reolwr Platfform 

Cyfyngiad oed: 11+

Amser cychwyn: 7.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 75 munud

Canllaw: Iaith gref, themâu galar a cholled

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston