Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

LLAIS

Khamira

Cabaret

12 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Khamira {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2704

LLAIS

Khamira

12 Hydref 2025

Cabaret

Drysau'n agor: 7.30pm | Amser dechrau: 8pm

Mae'r band cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira yn ymweld â Gwyl Llais am y tro cynta' wrth iddyn nhw ddathlu ei penblwydd yn 10 oed.

Yn cynnwys 3 cerddor o Gymru a 3 o India, mae Khamira yn perfformio 'Cerddoriaeth Byd Byr-fyfyr' – yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz a roc. 

Mae Khamira wedi perfformio mewn Gwŷliau ledled y byd ers 2015, gan gynnwys y Goa JazzFest a Seoul Music Week yn Ne Korea ac yn 2024 fe wnaethon nhw berfformio yng Ngwyl Jazz Kolkata am yr ail waith.

Ar gyfer y perfformiad arbennig yma yng Ngwyl Llais, bydd dwy gantores arbennig yn ymuno â Khamira ar y llwyfan: Amruta Garud ac Eadyth Crawford.

Ma' cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd llwyr o Gerddoriaeth Byd – dychmygwch gerddoriaeth sinematig Pat Metheny a band ffync Miles Davis o'r 70au wedi ei plethu gyda alawon gwerin Cymru a cherddoriaeth glasurol India.

"Exhilarating and mesmeric"

AP Reviews

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 8 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

O dan 30

Gostyngiad o £3

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret