Drysau'n agor: 2.30pm | Amser dechrau: 3pm (dim cefnogaeth)
Landless yw: Lily Power, Méabh Meir, Ruth Clinton a Sinéad Lynch.
Mae'r pedwarawd Gwyddelig yn canu hen hen faledi yn ogystal â chaneuon gwerin a ysgrifennwyd yn fwy diweddar. Weithiau heb gyfeiliant a weithiau gydag offerynnau cynnil, mae eu lleisiau cyfoethog yn dywyll ac yn amyneddgar; yn hudolus ac yn hyfryd. Lúireach yw eu hail albwm, ac fel gyda'u halbwm gyntaf lwyddiannus Bleaching Bones (2018), mae wedi’i chynhyrchu gan John ‘Spud’ Murphy, sy'n adnabyddus am ei waith gydag artistiaid fel Lankum ac ØXN.
Mae'n teimlo fel petai cerddoriaeth werin o Ddulyn ym mhobman ar hyn o bryd – gan gynnwys wrth i Lankum gael llu o enwebiadau 'Albwm y Flwyddyn' ar ddiwedd 2023 – ond byddai'n gamgymeriad meddwl am hyn fel datblygiad, heb sôn am adfywiad. Er bod Lankum, John Francis Flynn, Ye Vagabonds, Lisa O’Neill ac eraill yn enwau newydd i lawer o bosib, mae’r artistiaid yma wedi bod yn gwyntyllu ac yn ehangu’r hyn allai cerddoriaeth werin fod ers blynyddoedd, degawdau hyd yn oed. Ac mae hynny yr un mor wir am Landless, y pedwarawd sydd wedi bod yn canu gyda'i gilydd ers 2013, ar ôl dod o hyd i'w gilydd drwy sîn ganu draddodiadol y brifddinas ac, yn hollbwysig, cymuned canu'r Delyn Gysegredig.
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer Landless a RÓIS i arbed £5.
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.