Drysau'n agor: 8.30pm | Amser dechrau: 9pm (dim cefnogaeth)
Soddgrythor, cyfansoddwr a chantores yw Mabe Fratti (o Guatemala, yn byw yn Ninas Mecsico) sy'n adnabyddus am ei chymysgedd atgofus o synau clasurol, atmosfferig ac avant-garde.
Mae'n defnyddio ei soddgrwth, ei llais, ac electroneg i greu seinweddau sy'n creu profiadau ymdrochol dwfn. Mae albymau clodwiw Fratti, fel Sentir Que No Sabes a Se Ve Desde Aquí, yn arddangos ei dawn i greu cerddoriaeth fewnsyllgar sydd hefyd yn eang.
Mae'n dwyn ysbrydoliaeth o fyrfyfyrio, cydweithio, ac awydd i gysylltu'n emosiynol â'i gwrandawyr. Mae ei gwaith wedi esblygu'n chwareus dros y blynyddoedd, ac mae elfen o syndod a throeon annisgwyl yn rhan o’r profiad o fwynhau ei cherddoriaeth.
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.