Bod yn uchel, digywilydd ac ychydig bach yn swnllyd oedd y cyfan roedd angen i Matt wneud i wthio ei hun i mewn i’r byd comedi yn 18 oed ac yn cyflwyno ar deledu Prydeinig erbyn roedd e’n 22 oed. Ond cyn i chi allu dweud ‘Celebrity Coach Trip’ mae e nawr yn ei 30au, felly beth sydd nesaf?
Mae Matt wedi symud i’r wlad, ymgartrefu, ac mae’n gwneud ei orau i beidio gwneud jôcs anfoesgar. Dyw pethau ddim yn mynd cystal ag yr oedd e wedi gobeithio…
Mae ceisio llywio byd yn llawn plant ffrindiau, morgeisi a bywyd pentref yn heriol i’r dyn sydd methu gwrthwynebu achosi trafferth. Sut mae heneiddio yn osgeiddig ac urddasol pan mae’n groes i bob rhan o’ch personoliaeth sydd wedi dod â chi fan hyn?
Fel y gwelwyd ar Dancing on Ice, The Stand Up Sketch Show, Love Island: Aftersun (ITV2), Roast Battle ar Comedy Central a llawer mwy.
"High wattage stand-up"
Amser dechrau: 8pm, doors 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.