Mae'r digwyddiad yma wedi cael ei ohirio o 19 Hydref 2024 tan 4 Hydref 2025.
Mae tocynnau yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Os na allwch chi ddod mwyach, cysylltwch â ni i gael ad-daliad.
Yn anffodus, ar ôl llawdriniaeth ddiweddar ar ei goes, mae tîm meddygol Max Boyce wedi ei gynghori i beidio â pherfformio nes ei fod wedi gwella'n llwyr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi ond edrychwn ymlaen at eich gweld chi flwyddyn nesaf.
Mae Max ‘nôl! Yn dilyn galw mawr, mae Max Boyce yn dychwelyd i’r llwyfan.
Mae Max Boyce wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers dros 40 mlynedd. Gyda’i allu i baentio lluniau drwy eiriau a chaneuon, mae Max wedi teithio i neuaddau cyngerdd mwyaf y byd, gan gynnwys y Royal Albert Hall a’r Sydney Opera House, ac mae hyd yn oed wedi cyflwyno ei sioe deledu ei hun. Mae seren y llwyfan a’r sgrin yn bendant wedi dod yn eicon yn ei oes ei hun.
Drwy ei albymau a’i recordiadau byw, mae ton newydd o gefnogwyr yn darganfod talent eithriadol y crefftwr geiriau carismatig yma ac yn dwli arno. Mae Max Boyce wedi cael ei ddisgrifio fel arwr gwerin i’r oes yma.
Mae perfformiadau byw Max yn parhau i syfrdanu torfeydd o bob oed ac mae hynny’n amlwg o weld pobl yn codi ar eu traed i gymeradwyo. Peidiwch â cholli allan ar y profiad unigryw o weld Max Boyce yn fyw ar y llwyfan a gallu dweud “I Was There!”
Amser dechrau: 7.30pm
Canllaw oed: 8+
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.