Wedi’ch magu ar fferm yn y canolbarth, heb sylweddoli eich bod chi’n frown tan yn chwithig o hwyr? Wedi’ch disodli fel hoff blentyn eich rhieni gan Labrador? Wedi dwyn croissant gan Hugh Jackman wrth edrych yn syth i’w afl? Dim ond fi felly? Cŵl.
Daw Mel Owen, a enwir yn 'Wales’ most exciting new act', a’i sioe hynod lwyddiannus o Ŵyl Ymylol Caeredin, adre i Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gyda’r Scotsman yn enwi hi’n 'one to watch' a’r Ed Fringe Review yn ei chanmol fel unigolyn 'obviously multi-talented', ni ddylid colli’r sioe hon.
Mae Mel wedi treulio 2024 yn teithio, gan gefnogi’r sêr comedi Cymreig Kiri Pritchard-McLean ac Elis James, yn ogystal â pherfformio sioeau a werthwyd pob tocyn yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth a Gŵyl Gomedi Aberystwyth. Ym mis Mai 2024 fe berfformiodd Mel yng ngŵyl gomedi Netflix Is A Joke yn Los Angeles, ac mae hi am ddychwelyd yno yn 2025.
Mae Mel yn llais cyfarwydd ar raglenni comedi BBC Radio 4, ac yn westai panel rheolaidd ar raglen banel ddychanol BBC Wales, What Just Happened. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer Channel 4, BBC Three, Radio Wales ac yn ddiweddar, Netflix.
"one to watch"
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
Rhybudd: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.