Am y tro cyntaf ers 1881, mae cartref deinosoriaid, Natural History Museum, yn mynd ar daith!
Ers iddyn nhw gael eu darganfod gyntaf yn y 1800au, mae deinosoriaid wedi tanio dychymyg plant ac oedolion ac am y tro cyntaf erioed, mae’r Natural History Museum fyd-enwog wedi cydweithio â Mark Thompson Productions i fynd â chi ar antur deinosoriaid heb ei thebyg.
Byddwn ni’n mynd ar daith gynhanesyddol gyda’n gilydd i’r cyfnodau Triasig, Jwrasig a Chretasig a gweld y deinosoriaid yn dod yn fyw ar y llwyfan!
Nid yn unig hynny, byddwn ni hefyd yn dysgu mwy am ffosiliau, graddfeydd amser a sut mae ein planed wedi newid dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd.
Felly paratowch ar gyfer profiad anhygoel ac unigryw!
Canllaw oed: 4+
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb.
Nodwch fod rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr (dim egwyl)
Amser dechrau:
Gwe 12.30pm + 4pm
DAN 16 OED
Gostyngiad o £2.50 ar y prisiau uchaf
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.