Mae Maple Tree Entertainment mewn cydweithrediad â Fremantle Australia yn cyflwyno: Neighbours – the 40th Anniversary Tour.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol The Celebration Tour a werthodd allan, mae Neighbours yn dychwelyd i’r llwyfan, gyda lein-yp newydd, straeon newydd a rheswm newydd sbon i ddathlu.
Ymunwch â rhai o’ch hoff wynebau o Ramsay Street wrth iddyn nhw ddathlu pedwar degawd o hanes y sioe, ar gyfer Neighbours – The 40th Anniversary Tour.
Gallwch chi ddisgwyl syrpreisys, straeon nad ydych chi wedi’u clywed o’r blaen a syniad o sut mae bywyd yn Erinsborough. Wedi’i gyflwyno (unwaith eto) gan Leah Boleto, dyma fydd y llwncdestun gorau i dros 9,000 o benodau o Neighbours.
Mae'r cast yn cynnwys Majella Davis, Rebekah Elmaloglou, Tim Kano, Lucinda Cowden ac yn ailuno ar y llwyfan, Kym Valentine a Dan Paris a oedd yn chwarae cwpl eiconig y 00au, Libby a Drew!

CWRDD A CHYFARCH VIP (Wedi gwerthu allan)
Mae tocyn VIP £157 yn cynnwys poster swyddogol y daith, rhodd arbennig swyddogol Neighbours a llun gyda’r cast.
Dim ond nifer bach o docynnau Cwrdd a Chyfarch VIP sydd ar gael.
Mae sesiynau Cwrdd a Chyfarch yn dechrau o 4pm. Bydd ein Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cysylltu â chi yn nes at yr amser i gadarnhau eich slot amser.
Canllaw oed: 12+ (dim plant o dan 2 oed)
Rhybuddion: Gall gynnwys iaith gref
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: 2 awr 30 munud gan gynnwys egwyl
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): Ar gael ar gais. Cysylltwch â hygyrchedd@wmc.org.uk i archebu tocyn BSL.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.